Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl
Mae unrhyw enaid sydd heb le tawel i fod ar ben ei [hun gyda duw mewn perygl mawr yn ysbrydol. Ydym ni wedi caniatáu i'n llefydd tawel gael eu chwalu neu adeiladu drostyn nhw gydag allorau sy'n edrych yn hardd, a phobl yn mynd heibio'n dweud, "Dyna grefyddol ydy'r person yna." Nae'r math yna o allor yn sarhad ar waith Duw yn ein heneidiau. Caniatâ Dduw i ni ddysgu mwy a mwy am y llawenydd dwys o fod ar ein pennau ein hunain gyda thi yn nhywyllwch y nos a thuag at y wawr.
Yn llyfr y Datguddiad mae Iesu Grist yn cyfeirio at ei hun fel "y dechrau a'r diwedd." Mae dewisiadau dynol yn cael eu gwneud yn y canol. Mae'r dechrau a'r diwedd yn aros gyda Duw. Duw sy'n dyfarnu geni a marwolaeth, a rhwng y terfynau hynny mae dyn yn creu ei dristwch neu lawenydd ei hun.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ble mae fy lle tawel i fod gyda Duw? Ydw i'n mwynhau bod ar ben fy hun gyda Duw neu ydw i'n awyddus i fynd i'r gwaith? Ydw i'n dechrau pob dydd drwy ofyn i Dduw beth ddylwn i ei wneud a'i orffen drwy ofyn sut wnes i?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o He Shall Glorify Me a Still Higher for His Highest,© Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.
More
We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org