Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 24 O 30

Does dim byd sy'n cythruddo fwy na'r cyngor, "dalia i wenu"; mae'n ffug, yn oleuni sy'n pylu'n fuan. Yr un peth mae Iesu Grist yn ei wneud i ddyn yw ei wneud yn fwy disglair, nid yn ddisgleirdeb artiffisial. Mae'r llawenydd y mae Iesu yn ei roi yn ganlyniad i'n tueddiad i fod yn un â'i warediad Ef ei hun. Bydd Ysbryd Duw yn ein llenwi i orlifo os byddwn yn ofalus i gadw yn y golau. Does gynnon ni ddim hawl i fod yn wan yn nerth Duw.
Does gynnon ni ddim hawl i ddweud wrth Dduw na allwn ni sefyll ddim mwy oherwydd dylai bod gan Dduw hawl i ymwneud â ni fel mae'n mynnu, fel y gwnaeth gyda'i Fab ei hun. Wedyn, bydd beth bynnag fu'n digwydd yn ein bywyd yn llawn llawenydd.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ydy fy ngwen yn ffals neu naturiol? Ydy fy llawenydd yn ffugio gobeithiol neu ddisgleirdeb mewnol? Fedra i drystio Duw i roi llawenydd imi mewn sefyllfaoedd dw i heb eu dewis?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o The Place of Help, © Discovery House Publishers
Diwrnod 23Diwrnod 25

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org