Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 23 O 30

Mewn rhai cyfnodau o fywyd ysbrydol dŷn ni dan yr argraff morbid bod rhaid ildio poeth sydd gynnon ni. Yn y Beibl ystyr aberthu yw rhoi bwriadol o'r hyn sydd gen i i Dduw fel ei fod yn ei wneud ar gyfer fi a fe am byth: os dw i'n dal gafael, dw i am ei golli, a Duw hefyd. Dwedodd Duw wrth Abraham i aberthu Isaac yn aberth llosg, ac wnaeth Abraham gymryd mai lladd ei fab oedd hynny'n ei olygu. Ond ar Fynydd Moreia collodd Abraham draddodiad anghywir am Dduw a chael mewnwelediad cywir o'r hyn oedd aberth llosg go iawn: aberth byw (Rhufeiniaid, pennod 5, adnod 5). Edrychai fel pe bai angen i ni ildio popeth, colli popeth sydd gennym, ac yn lle bod Cristnogaeth yn dod â llawenydd a symlrwydd, mae'n ein gwneud ni'n ddigalon, nes ein bod mwyaf sydyn, yn sylweddoli mai amcan Duw yw i ni gymryd rhan yn ein datblygiad moesol, a dŷn ni'n gwneud hyn drwy aberthu'r naturiol i'r ysbrydol drwy ffyddlondeb, ddim yn gwadu'r naturiol, ond yn ei aberthu.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Pa gysyniadau anghywir am Dduw ydw i’n dal gafael arnyn nhw sy’n fy nghadw rhag profi llawenydd?

Dyfyniad wedi'i gymryd o He Shall Glorify Me,© Discovery House Publishers
Diwrnod 22Diwrnod 24

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org