Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 19 O 30

Mesura dy hyfrydwch eithaf yng ngwirionedd a llawenydd Duw yn Nuw gan y mymryn bach sy'n amlwg i ti. Mae yna ddarnau cyfan o gymeriad Duw heb eu datgelu inni eto, ac mae'n rhaid i ni ymgrymu nes bod Duw yn gallu datgelu'r pethau sy'n edrych mor dywyll. Y perygl ydy, na fyddwn ni'n gwneud y mymryn bach o wirionedd dŷn ni'n ei wybod yn binacl dŷn ni'n gosod ein hunain i farnu pawb arall arno.

Mae'n ddifrifol o hawdd i wneud ein cysyniad o Dduw i fod fel plwm tawdd a'i dywallt i fowld wedi'i gynllunio gynnon ni, ac yna pan mae'n oer, ei daflu at bennau'r rhai sy'n anghytuno â ni.

Gwireddu etholiad gras trwy adfywio, a thrwy hynny gael ei ffitio'n berffaith ar gyfer gogoneddu Duw, yw'r sylweddoliad mwyaf llawen.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Beth sy'n glir i mi am Dduw? Ydy e'n ddigon i fy ngwneud i'n llawen heb fod yn feirniadol? Os mai'r cyfan a wn i am Dduw yw'r cyfan sydd i'w wybod am Dduw, pa reswm fyddai gen i dros lawenydd?

Dyfyniadau wedi'u cymryd o Notes on Isaiah a Notes on Ezekiel, © Discovery House Publishers

Ysgrythur

Diwrnod 18Diwrnod 20

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org