Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 20 O 30

Ffawd anffawd! Dyna ffordd Paul o edrych ar ei gaethiwed. Dydy e ddim eisiau iddyn nhw fod yn ddigalon o'i ran e, neu ddychmygu fod bwriad Duw wedi'i rwystro; mae'n dweud nad yw wedi'i rwystro ond ei hyrwyddo. Mae'r pethau hynny wnaeth ymddangos mor drychinebus wedi troi allan i fod y pethau mwyaf amserol, felly o ran hyn mae ei galon yn llamu mewn llawenydd, ac mae'r gorfoledd yn dod i'r amlwg.
Mae ysbryd o ffyddlondeb yn rhoi mwy o lawenydd i Dduw na dim arall ar y ddaear. Pan mae Duw wedi tywallt ei gariad yn fy nghalon (Rhufeiniaid, pennod 5), adnod 5, dw i wedi fy meddiannu gan natur Duw, a dw i'n gwybod fy mod yn ei garu drwy fy ffyddlondeb. Y mesur gorau o fywyd ysbrydol yw, nid ei ecstasi, ond ei ffyddlondeb.
Cwestiynau i fyfyrio arnynt: Pa drychinebau sydd wedi troi'n gyfleoedd? Pa lawenydd faswn i wedi'i fethu pe bawb i heb gerdded gyda Duw drwy adfyd?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o Conformed to His Image a Not Knowing Where, © Discovery House Publishers
Diwrnod 19Diwrnod 21

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org