Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 17 O 30

Mae ein Harglwydd yn siarad am y llawenydd o ffeindio pethau coll. I fi mae hyn wastad yn apelgar: Mae'r Arglwydd eisiau edrych drwy fy llygaid. Mae'r Arglwydd eisiau meddwl drwof fi. Mae'r Arglwydd eisiau gweithio drwy fy nwylo. Mae'r Arglwydd eisiau byw a cherdded ynof i i un pwrpas - i fynd ar ôl y coll o'i safbwynt e. Ydw i'n gadael iddo gerdded a byw ynof i?

Mae modd ffugio gwirioneddau ysbrydol yn ddiddiwedd. Gellir troi "disgwyl am yr Arglwydd" yn "rhwd" duwiol mewn teimlad. Beth sy'n mynd i ddod o'n holl siarad am sancteiddhad? Dylai olygu'r disgwyl hwnnw am yr arglwydd fel oedd gan Iesu - nid yn unig yn ddi-fai yng ngolwg Duw, ond o lawenydd mawr iddo.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ydw i'n mwynhau ffeindio beth sydd ar goll? Ydw i'n gyfranogwr eiddgar yng nghynllun Duw i chwilio am a safio'r coll? Sut allwn i fod yn euog o greu ysbrydolrwydd ffug? Ydw i'n hyrwyddo unrhyw fath o orffwys heblaw undod gydag Iesu ac yn ddi-fai yng ngolwg Duw?

Dyfyniadau wedi'u cymryd o Workmen of God a The Place of Help, © Discovery House Publishe

Ysgrythur

Diwrnod 16Diwrnod 18

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org