Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 14 O 30

Y llawenydd y gall credadun ei roi i Dduw yw'r pleser puraf y mae Duw byth yn ei ganiatáu i sant, ac mae hi mor gywilyddus sylweddoli cyn lleied o lawenydd dŷn ni'n ei roi iddo. Dŷn ni'n trystio Duw hyd at ryw bwynt, ac yna'n dweud, "Nawr, rhaid imi wneud fy ngorau." Mae yna gyfnodau pan nad oes yna orau dynol i'w wneud, pan ddylid gadael i Dduw i weithio, ac mae Duw'n disgwyl i'r rhai hynny ohonom sy'n ei adnabod fod yn hyderus yn ei allu a phŵer. Rhaid i ni ddysgu beth ddysgodd y pysgotwyr, fod y saer o Nasareth yn gwybod yn well na nhw sut i reoli'r cwch. Ai saer neu Duw i mi yw Iesu Grist? Os mai dyn yn unig yw e, pam gadael iddo lywio'r cwch? Pam gweddïo arno? Ond os mai Duw yw e, felly, bydd yn ddigon dewr i ildio a pheidio colli dy hyder ynddo e.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ydw i erioed wedi ystyried os gallwn i neu dylwn i roi llawenydd i Dduw? Ydw i'n gwybod beth sy'n dod â llawenydd i Dduw? Ym mha ffyrdd y gallwn roi llawenydd i Dduw?

Dyfyniadau wedi'u cymryd o The Place of Help, © Discovery House Publishers

Ysgrythur

Diwrnod 13Diwrnod 15

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org