Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 13 O 30

Roedd gan Solomon bopeth allasai dyn ei gael mewn bywyd, gallai blesio'i hun,, rhoddodd dro ar fod yn gas, ar fod yn aruchel, ar fod yn esthetig, ar fod yn ddoeth, ond dwedodd nad oes modd ffeindio llawenydd parhaol ynddyn nhw. Mae llawenydd i'w gael, yn unig, yn dy berthynas gyda Duw, tra rwyt yn byw ar y ddaear hon, y ddaear rwyt yn dod ohoni ac y byddi'n dychwelyd iddi. Llwch yw'r elfen feinaf mewn dyn, gan mai ynddo mae gogoniant Duw'n amlygu'i hun.
gread Mae Duw'n falch o'r hyn greodd, ond nes byddwn yn ei adnabod mae yna lawer yn ei gread dŷn ni'n ansicr ohono. Unwaith y byddwn wedi dod i ddeall Duw, dŷn ni wrth ein bodd gyda'i gread, fel y mae e. Mae plentyn yn mwynhau ei gread am fod popeth yn rhyfeddol iddo.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Beth arall dw i'n feddwl dw i angen i fod yn llawen? Beth mae'n ei olygu i ymhyfrydu yng nghread Duw? Pam ydw i'n ystyried fod llech yn felltith, yn hytrach na bendith?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o Still Higher for His Highest a God’s Workmanship, © Discovery House Publishers
Diwrnod 12Diwrnod 14

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org