Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 12 O 30

Y cwbl sydd ar ôl mewn tywyllwch ar hyn o bryd yw, ydy un diwrnod yn mynd i fod mor hynod o glir, a hyfryd o ddisglair â'r darn dŷn ni wedi'i weld. Does dim syndod fod Duw'n ein cwnsela i fod yn amyneddgar. O dipyn i beth byth popeth yn dod i'r golau, nes ein bod yn deall fel roedd Iesu Grist yn deall. Bydd yr holl amser yn nhragwyddoldeb cyfan yn cael ei ddefnyddio i ddeall ac adnabod Duw, a diolch i Dduw, efallai y byddwn yn dechrau ei adnabod ar y ddaear. Mae'r bywyd sancteiddiedig yn golygu ein b dechrau deall Duw ac amlygu bywyd Mab Duw yn ein cnawd meidrol.
Mae popeth dŷn ni'n gwybod am Dduw'n ein llenwi â llawenydd tu hwnt i eiriau. Os dŷn ni'n deall Duw ar unrhyw un pwynt, byddwn yn deall rhywfaint o'r llawenydd oedd gan Iesu. Mae'n feddiant rhyfeddol, mae'n nodweddiadol iawn o Iesu.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ydw i'n mwynhau datguddiad pwyllog Duw, neu ydw i'n colli amynedd gyda'i ddiffyg brys? Os nad yw Duw ar frys, pam ydw i? Sut fedraf i fwynhau gwybodaeth os nad ydw i'n mwynhau darganfod?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o Our Brilliant Heritage, © Discovery House Publishers

Ysgrythur

Diwrnod 11Diwrnod 13

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org