Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 11 O 30

Mae'n beth hyfryd gweld dyn neu ddynes yn byw yng ngolau rhywbeth na elli di ei weld. Mae wastad yn bosibl gweld pan fydd gan berson safon anweledig, am fod rhywbeth yn eu cadw'n fodlon pan ddylen nhw, o ystyried popeth arall, fod yn anfodlon. Mae hynny'n nodwedd o Gristion. Dydy e ddim yn crwydro yn ystod cyfnodau o fod dan fygythiad. Mae ganddo angor sy'n dal gafael yn y gobaith. Pan dŷn ni'n gwybod fod amser yn dod pan fydd popeth yn cael ei esbonio'n llawn, mae'n cadw ein hysbryd yn llawn o lawenydd na ellir ei ddifrodi.

Arglwydd Dduw dw i prin yn dechrau dirnad yr hyn wyt ti i mi - mwy na golau'r bore, mwy na llawenydd ac iechyd, mwy na'th holl fendithion. Gwawria arnaf i'r bore hwn i oleuo'n gyfan gwbl drwy dy olau.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Sut mae adnabod yr un sy'n gwybod beth yw'r dyfodol yn fy nghadw rhag drifftio i anobaith? Pa olau mae angen imi ffocysu arno er mwyn cadw ar y daith at lawenydd? Ble ydw i angen gollwng fy angor i'm rhwystro rhag crwydro?

Dyfyniadau wedi'u cymryd o The Place of Help a Knocking at God’s Door, © Discovery House Publishers
Diwrnod 10Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org