Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl
Nid fy mod wedi fy achub a'm sancteiddio neu fy iacháu yw'r cymhelliant ac ysbrydoliaeth fawr o wasanaethu. Mae hynny i gyd yn ffaith, ond cymhelliant mawr y gwasanaethu yw sylweddoli bod pob darn o fy mywyd sydd o werth i'w briodoli i'm mhrynedigaeth. Dw i'n sylweddoli gyda llawenydd na allaf i fyw fy mywyd fy hun, dw i'n ddyledus i Grist, c o'r herwydd ni allaf ond gwireddu cyflawniad Ei ddibenion yn fy mywyd.
Roedd llawenydd Iesu Grist yn yr hunan-ildio absoliwt a hunanaberth i'w Dad, y llawenydd o wneud beth wnaeth y Tad ei anfon i wneud, a dyna'r llawenydd y mae'n ei weddïo allasai fod yn ei ddisgyblion. Nid yw'n fater o geisio gweithio fel y gwnaeth Iesu, ond o gael presenoldeb personol yr Ysbryd Glân sy'n rhoi natur Iesu ar waith ynom ni. Un o gysuron y ffordd yw llawenydd didrugaredd yr Ysbryd Glân yn amlygu ei hun ynom fel y gwnaeth ym Mab Duw yn ei ddyddiau fel dyn.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Beth sy'n llawen am sylweddoli na allaf fyw fy mywyd fy hun? Os cafodd Iesu lawenydd wrth ildio, beth sy'n rhaid i mi edrych ymlaen ato trwy gael Crist yn byw trwof i?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o So Send I You, © Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.
More
We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org