Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 7 O 30

Pa un ai os wyt ti'n ddoeth neu'n ffŵl, onest, yn ormeswr neu'n cael dy ormesu, llwyddiannus neu'n fethiant, yn gymdeithasol neu'n byw'n unig, ystyfnig neu'n graff, yr un canlyniad sydd. Mae popeth yn mynd heibio medd Solomon, a fedrwn ni ddim ffeindio llawenydd sy'n para mewn unrhyw elfen dŷn ni'n hoffi ei gyffwrdd. Mae'n drychinebus i ddyn geisio dod o hyd i'w wir lawenydd mewn unrhyw ymadrodd o wirionedd, neu wrth gyflawni uchelgais, neu mewn unigrwydd ffisegol neu ddeallusol, neu mewn cymdeithas; dim ond mewn perthynas bersonol â Duw y bydd yn cael ei lawenydd. Iesu Grist yw Duw mewn cnawd dynol, ac mae'n rhaid i ni anwybyddu hyd at gasineb unrhyw beth sy'n cystadlu â'n perthynas ag Ef.

Gwir lawenydd bywyd dyn yw yn ei berthynas â Duw, a phwynt mawr yr hyder Hebraeg yn Nuw yw nad yw’n anaddas i ddyn ar gyfer ei fywyd go iawn. Dyna bob amser brawf o ffug grefydd.

Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ym mha leoedd neu sefyllfaoedd ydw i wedi ceisio dod o hyd i lawenydd? Ym mha uchelgais, cred, neu argyhoeddiad ydw i wedi trio ffeindio llawenydd? Ym mha berthnasoedd dynol ydw i wedi edrych am lawenydd?

Dyfyniadau wedi'u cymryd o Still Higher for His Highest, © Discovery House Publishers
Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org