Ddim yn iawnSampl
Un o'r rhannau mwyaf rhwystredig o roi jig-so at ei gilydd yw pan fydd darn yn edrychfel ei fod yn ffitio efo darn arall, ond dydyn nhw ddim mewn gwirionedd. Mae'n ddryslyd. Efallai bod y darnau o'r lliw a'r siâp cywir, ond dydyn nhw ddim yn ffitio. Pan na fedri di weld y darlun cyfan, mae'n hawdd gwneud camgymeriadau bach fel hynny.
Gall fod yr un ffordd gyda phobl. Weithiau, rwyt ti'n gweld person arall neu hyd yn oed grŵp o bobl, ac mae'n teimlo fel y dylet ti ffitio mewn yn iawn. Rwyt ti eisiau bod yn ffrind iddyn nhw neu efallai hyd yn oed mynd allan gyda nhw. Rwyt ti'n mwynhau'r pethau maen nhw'n eu mwynhau. Pam na fyddet ti’n ffit cywir? Ond yna rwyt ti’n rhoi tro arni ac yn cael dy wrthod. Mae'n ddryslyd. . . ac mae'n brifo.
Pan fyddi di'n cael dy wrthod fel hyn, mae yna ychydig o bethau i'w cadw mewn cof. Yn gyntaf, nid yw cael dy wrthod yn golygu bod rhywbeth o'i legyda ti. Yn union fel nad oedd unrhyw beth o'i le ar y darn pos hwnnw. Doedd ddim yn ffitio lle roeddet ti'n meddwl y byddai, ond bydd yn ffitio rhywle. Mae'n rhaid i ti ddod o hyd i'r lle iawn.
Y peth arall i'w gofio yw, yn union fel y pos yna, dwyt ti ddim yn gweld y darlun cyfan eto. Mae'r Beibl yn dweud ein bod, am y tro, "ychydig dyn ni'n ei wybod." Efallai na fydd y gwrthodiad dŷn ni'n ei wynebu nawr mewn bywyd yn gwneud synnwyr. Ond un diwrnod, pan fydd Duw yn dangos y darlun cyfan i ni, byddwn ni'n gallu gweld y cynllun yn gliriach a deall pam y digwyddodd pethau fel y gwnaethon nhw.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More