Ddim yn iawnSampl
Da iawn ti'r wythnos yma! Heddiw, gad i ni ail edrych ar yr adnod honno rwyt ti'n trio ei dysgu ar y cof. Sut mae'n mynd? Heddiw, darllena'r adnod hon ychydig o weithiau, ei hadrodd, parhau i geisio ei chofio a threulio heddiw yn myfyrio ar yr hyn y mae'n ei ddweud a pham ei fod yn bwysig.
Faint o'r darn wyt ti'n ei gofio o'r tair wythnos flaenorol. Os nad wyt ti yna eto, ailadrodda hi nes y gelli di wneud hynny heb edrych. Yna, anfona'r darn trwy neges testun, o'r cof, at dri ffrind. Rho reswm pam mae'r darn hwn wedi bod yn ystyrlon i ti'r mis hwn.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More