Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 26 O 28

Yn y rhan hynafol o wlad Groeg roedd ganddyn nhw chwedl am ddyn o'r enw Sisyphus. Roedd yn dywysog hynafol a dwyllodd un neu ddau o'r duwiau Groegaidd, a dydy hynny byth yn syniad da. Fel cosb, fe'i wnaethon nhw ei orfodi e i dreulio tragwyddoldeb yn gwthio clogfaen enfawr i fyny bryn, dim ond i'r clogfaen rowlio'n ôl i lawr ar unwaith bob tro. Felly, yn ôl eu mythau, bydd yn gwneud hynny am byth - gwthio craig fawr i fyny bryn dro ar ôl tro am byth. Swnio fel sefyllfa hynod o annifyr?

Mae'n debyg dy fod di'n teimlo fel Sisyphus gydag ychydig o bethau yn dy fywyd dy hun. Efallai bod gen ti aelod o'r teulu sy'n sâl. Efallai dy fod yn methu darganfod sut i wella ar dy raddau. Efallai bod gan dy deulu drafferthion ariannol. Efallai dy fod newydd gael llawer o straen a phryder yn dy ben, a dydy e ddim yn edrych fel dy fod yn gallu ei dawelu. Gall yr holl bethau hyn deimlo fel dy fod yn treulio bob dydd yn gwthio clogfaen enfawr i fyny bryn, a does dim diwedd yn y golwg.

Gall brwydrau fel hyn fod yn boenus iawn. Gall hefyd fod yn flinedig. Hoffet ti fynd un diwrnod yn unig heb orfod delio ag e, ond mae bob amser yno, yn hongian dros dy ben fel cwmwl.

Pan dŷn ni’n teimlo fel hyn, mae Duw yn ein cyfarwyddo i fod yn ddewr oherwydd does dim rhaid i ni wynebu’r pethau hyn ar ein pennau ein hunain. Mae Duw yn union wrth ein hymyl, yn gweithio gyda ni ar beth bynnag sy'n rhoi trafferth i ni, yn barod i'n helpu i oresgyn.

Ysgrythur

Diwrnod 25Diwrnod 27

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org