Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 27 O 28

Os wyt ti erioed wedi chwarae gêm o ‘draughts’, rwyt ti'n gwybod ei fod yn dechrau'n eithaf syml. Mae gen ti griw o ‘draughts’ bach, ac rwyt ti'n ceisio eu cael i ochr arall y bwrdd heb gael bod yna neidio dros dy rai di. Dydy e ddim rhy anodd.

Ond ar ôl i chi gyrraedd ochr arall y bwrdd, beth sy'n digwydd? Rwyt yn troi’n frenin. Mae darn bach arall yn cael ei roi ar ei ben, ac yn y bôn rwyt ti wedi troi’n llawer mwy peryglus. Nawr, rwyt ti’n gallu gwneud rhywfaint tipyn mwy o ddifrod. Rwyt ti’n gallu symud i unrhyw gyfeiriad ti’n dymuno. Mae neidio dros ddarnau dy wrthwynebydd yn llawer haws. Mae'n teimlo fel cael pwerau mawr!

Roedd pwy bynnag a ddyfeisiodd ‘draughts’ yn deall, pan fyddi di’n cydweithio â rhywun arall, rwyt yn gallu gwneud llawer mwy. Dyna pam mae dau ddarn yn fwy effeithiol nag un. Pan fyddi di'n partneru â rhywun, rwyt t chi'n gallu gwneud mwy.

Dyna hefyd pam ei bod mor bwysig i ni bartneru â'n gilydd. Mae hyn yn arbennig o wir os oes gen ti ffrind sy'n cael trafferth gyda phryder a straen. Os wyt ti erioed wedi cael trafferth gyda phryder dy hun, rwyt ti'n gwybod pa mor unig y gelli di deimlo. Rwyt ti'n dechrau teimlo mai ti yw'r unig un sy'n gwybod sut brofiad ydy hynny.

Ond os oes rhywun arall yno gyda thi, rwyt ti'n gwybod nad wyt ti ar dy ben dy hun, ac mae'n llawer haws wynebu heriau bywyd pan fyddi di'n gwybod bod rhywun yna’n gefn i ti. Mae'r Beibl yn galw hyn yn "adeiladu ein gilydd i fyny." Felly, y tro nesaf y bydd ffrind angen help, cofia faint y gall y ddau ohonoch ei gyflawni gyda'ch gilydd.

Diwrnod 26Diwrnod 28

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org