Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 24 O 28

Os wyt ti erioed wedi bod ar heic, rwyt ti'n gwybod bod angen i ti gadw llygad am blanhigion peryglus fel eiddew gwenwynig. Os digwydd iti ei gyffwrdd, byddi di’n treulio'r ychydig ddyddiau wedyn yn dioddef tipyn. Yn anffodus, mae'n eithaf hawdd rhedeg i mewn i eiddew gwenwyn oherwydd ei fod yn edrych yn union fel planhigyn arferol. Ond os wyt ti'n gwybod beth i gadw llygad allan amdano, ddylet ti allu ei osgoi. Mae'n lliw gwyrdd tywyll, ac mae'r dail bob amser mewn setiau o dri. Dyna pam mae gan gerddwyr ddywediad: "Dail o dri, gad e fod."

Oni fyddai'n braf pe bai gan bob problem mewn bywyd ryw fath o reol syml i'th helpu di i wybod a fydd yn broblem mawr ai peidio? Rwyt ti'n dechrau ffeit efo ffrind. . . A yw'n mynd i arwain i oblygiadau, neu a fydd drosodd yn fuan? Rwyt ti'n teimlo ychydig yn sâl. . . A fydd wedi mynd yfory, neu a fydd yn rhaid iti fynd at y meddyg i gael ymchwiliad?

Yn anffodus, does gynnon ni ddim bob amser ffordd hawdd, syml o wybod ar unwaith a yw ein problemau yn bryderon bach neu'n rhai llawer mwy difrifol. Ond mae gynnon ni Dduw.

Yn narlleniad y Beibl heddiw, mae Iago yn dweud y gallwn ni bob amser ofyn i Dduw am ddoethineb. Gall doethineb a ddaw oddi wrth Dduw wneud byd o wahaniaeth wrth ddeall ein straen a’n gofid. Gyda chymorth Duw, dŷn ni, nid yn unig yn gallu osgoi "eiddew gwenwyn" bywyd, ond hefyd yn gwybod sut i'w drin pan fyddwn yn dod ar ei draws.

Ysgrythur

Diwrnod 23Diwrnod 25

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org