Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 25 O 28

Os wyt ti erioed wedi chwarae pêl fas neu hyd yn oed os oes gen ti syniad cyffredinol o'r gêm, rwyt ti'n gwybod yr un rheol ar gyfer sicrhau dy fod yn taro'r bêl pan mai hi dy dro di i fatio. P'un ai rhiant neu hyfforddwr yn y prif gynghreiriau sy’n dy ddysgu sut i chwarae pêl fas, byddan nhei gyd yn dweud yr un peth wrthot ti: "Cadwa dy lygad ar y bêl."

Oni fyddai mor hawdd â hynny? Fel, pe bai chwarae pêl fas mor syml â chadw dy lygad ar y bêl yn unig, yna byddem i gyd yn eithaf da wrth chwarae pêl fas. Ond nid yw mor hawdd â hynny.

Weithiau, dyna sut mae'n swnio pan fydd pobl yn dweud wrthot ti am drystio yn Nuw gyda’th boenau a'th bryderon. Yn sicr, mae yn swnio fel cyngor da. Ond yn union fel nad yw "cadw dy lygad ar y bêl" mor hawdd ag y mae'n swnio, nid yw "trystio yn Nuw" mor hawdd â hynny chwaith. Sut ydyn ni mewn gwirionedd yn canolbwyntio ar Iesu pan dŷn ni dan straen?

Yn y Beibl, mae Paul yn deall nad yw “trystio yn Iesu” bob amser mor hawdd ag y mae'n swnio. Ac yn Philipiaid, mae mewn gwirionedd yn rhoi proses gam wrth gam inni ar gyfer sut olwg allai fod ar hynny.

Yn ei dyb e, y peth cyntaf sydd angen i ni ei wneud o ran trystio yn Nuw yw dechrau trwy ddweud wrth Dduw beth dŷn ni'n poeni amdano. Pan dŷn ni'n dod â'n pryderon i Dduw, dŷn ni'n cael addewid o heddwch sy'n gryfach na'n holl straen a'n pryderon gyda'i gilydd. Nid yw "Trystio yn Nuw" yn swyn hud i wneud i'r cyfan ddiflannu, ond mae'n gam cyntaf tuag at oresgyn ein pryderon.

Diwrnod 24Diwrnod 26

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org