Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 22 O 28

Pwy yw'r bobl sy'n ymdeimlo â'th straen? P'un a yw'n straen sy'n gysylltiedig â chwaraeon, ysgol neu deulu, fel arfer mae rhywun sy'n gallu deall neu gysylltu â'r hyn rwyt ti'n ei deimlo. Mae siarad â'r bobl hyn am straen yn wahanol oherwydd bod ganddyn nhw ffrâm gyfeirio ar gyfer ein problemau. Mae nhw’n gallu gofyn cwestiynau penodol, ystyrlon i ni yn lle dweud, "Byddi di’n iawn." Pan fyddwn yn rhannu ein straen gyda phobl sy'n eu deall, maen nhw'n ein helpu i ddilysu ein profiadau ac yn rhoi lle i ni ail-fframio ein meddyliau.

Yn narlleniad heddiw, fe wnei di weld Iesu yn gwneud rhywbeth tebyg. Siaradodd â'i ddilynwyr am eu pryderon a gofynnodd iddyn nhw gymharu eu pryderon â rhannau o fyd natur. Doedd e ddim yn ceisio osgoi eu teimladau, ond roedd yn eu gwahodd i ddechrau prosesu eu pryderon a'u straen mewn ffordd newydd. Cadarnhaodd eu meddyliau a'u persbectif o'r byd a'u cyfeirio i weld sut y byddai Duw yn darparu ar eu cyfer. Roedd yn cydnabod cymaint yr oedden nhw'n delio ag ef a dangosodd iddyn nhw fod Duw yn gofalu amdanyn nhw.

Pan ddaw at ein pryderon ein hunain, weithiau gallem ddefnyddio ychydig o gadarnhad hefyd. Efallai ein bod wedi colli golwg ar faint y gallwn drystio yn Nuw i weithio pethau allan er ein lles. Pan dŷn ni’n rhannu ein pryderon â phobl sy’n gallu uniaethu, maen nhw’n gallu helpu i ailgyfeirio ein ffocws i sut mae Iesu yn dangos i ni sut un yw Duw. Gyda'u cymorth nhw, mae modd i ti gofio pan fyddi di’n teimlo'n bryderus, bod hi’n bosib trystio yn Iesu.

Diwrnod 21Diwrnod 23

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org