Ddim yn iawnSampl
Un o'r pethau cyntaf y mae cyfarwyddwyr ffilm yn ei wneud pan fyddan nhw’n dechrau prosiect newydd yw dewis eu hactorion. Maen nhw'n gwneud eu gorau i gael y sêr gorau posib a'r perfformwyr mwyaf talentog i fod yn y ffilm. Does neb eisiau gwneud ffilm gyda chriw o actorion nad ydyn nhw'n fedrus yn yr hyn maen nhw'n ei wneud.
Wel, bron neb . . . meddylia am Dduw fel cyfarwyddwr bywyd ac mae pob person unigol wedi'i ddewis yn y ffilm. Byddai'n braf pe bai pawb yn naturiol dalentog i fod yn sêr mawr ac yn actorion sydd wedi ennill Oscar, ond dydy hynny ddim yn wir. A chreda neu beidio, dyma'n union beth oedd cynllun Duw.
Yn narlleniad heddiw, mae Paul yn dweud bod Duw wedi ein dewis ni am ein rhan ni oherwydd dydyn ni ddim yn enwog. Mae Duw yn gwybod faint ohonom ni sy'n cael trafferth gyda phryder a straen ac yn teimlo nad ydyn ni'n mesur pwy ydyn ni i fod. Dydyn ni ddim yn siomi Duw oherwydd dyma'n union beth oedd cynllun Duw.
Ti’n gweld, mae Duw eisiau i bob un ohonom bwyntio at Iesu. Pan dŷn ni'n teimlo'n wan, wedi blino'n lân, wedi llosgi allan, neu dan straen, gallwn ymddiried yn Iesu oherwydd ef yw'r un sydd i fod i drin hyn i gyd yn y lle cyntaf. Doeddet ti ddim i fod i drin hyn i gyd ar dy ben dy hun! Roeddet ti i fod i drystio yn Iesu. A phan fyddi di'n gwneud hynny, fe weli di pwy yw gwir seren y sioe.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More