Ddim yn iawnSampl
Mae gen ti fwriadau mawr mewn bywyd. Mae gan bawb. Efallai dy fod eisiau mynd i Hollywood a dod yn actor. Efallai bod gen ti dy lygad ar goleg neu lwybr gyrfa penodol. Efallai dy fod am fod yn athletwr neu'n awdur proffesiynol. Mae'r rhain i gyd yn fwriadau mawr, pwysig. A dylet ti fynd amdani! Ond maen nhw bosib iawn ychydig yn frawychus, hefyd? Beth os nad yw'n gweithio allan? Beth os byddi di’n methu?
Mae bron unrhyw fwriad mawr sydd gen ti mewn bywyd yn dod â risg o gael ei wrthod. Mae hynny'n wir p'un ai wyt yn meddwl pa swydd yr hoffet ei chael, breuddwyd yr hoffet ei chyflawni, neu hyd yn oed dim ond ffrindiau yr hoffet eu cael. Mewn unrhyw un o'r achosion hyn, efallai y byddi di'n cael siomi. Mae'n hawdd ofni cael eich gwrthod. Mewn gwirionedd, gallwn fod mor ofnus fel ein bod yn penderfynu peidio â cheisio hyd yn oed. Mae'r risg o gael dy wrthod yn swnio'n fwy brawychus na'r wefr o lwyddo, felly dŷn ni'n penderfynu ein bod ni'n well ddim yn mentro.
Ond nid yw hynny'n ffordd i fynd trwy fywyd. Yn hwyr neu'n hwyrach, mae'n rhaid i ti roi tro ar rywbeth.
Mae Duw yn gwybod ei bod hi'n anodd wynebu'r posibilrwydd o gael dy wrthod. Gall greu llawer o straen a phryder yn ein bywydau. Beth os na fyddwn yn ei wneud? Beth os byddwn yn methu? Sawl gwaith dylen ni geisio cyn rhoi'r gorau iddi? Pan wyt ti'n teimlo fel hyn, cofia'r gwahoddiad mae Iesu yn ei roi yn y darn heddiw o'r Beibl.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More