Ddim yn iawnSampl
Wyt ti'n gwybod unrhyw bosau da? Mae yna rywbeth am ddatrys pos cymhleth a all roi hwb i'n hyder ychydig. Dŷn ni'n cael ein hysgogi gan y teimlad hwnnw i roi ein holl egni i ddarganfod yr ateb, ond gall chwilio am yr ateb hwnnw fod yn straen. Mae cymaint o bethau yn ein hysgogi i weithredu a byw fel yr ydym. Gyda'r cymhelliant cywir, gallwn wneud bron unrhyw beth.
Yn narlleniad heddiw, byddi di’n edrych ar stori dyn o’r enw Brenin Herod, a gafodd ei ysgogi gan yr holl bethau anghywir - roedd am brofi ei hun a diogelu ei statws. Felly, pan ofynnwyd iddo wneud rhywbeth ofnadwy, ildiodd i'r cymhellion hynny hyd yn oed pan oedd rheiny’n niweidio eraill. Yr hyn yr oedd ei angen ar Herod yma oedd gonestrwydd. Yn breifat, roedd yn hoffi Ioan ac yn mwynhau ymweld ag e pan oedd yn y carchar. Ac eto, yn gyhoeddus, roedd Herod eisiau dangos ei awdurdod dros Ioan a defnyddio ei bŵer fel nad oedd eraill yn meddwl ei fod yn wan. Roedd angen help ar Herod i wneud y peth iawn ym mhob sefyllfa.
Dydy gwneud y peth iawn ddim bob amser yn hawdd, ond waeth pa mor anodd ydy hynny, mae Duw yn ein gwahodd i fod yn bobl onest ac i wneud y peth iawn ym mhob sefyllfa. Pryd bynnag y byddi di i mewn sefyllfa anodd, tro at Dduw i roi'r cryfder sydd ei angen arnat ti i wneud y penderfyniad cywir ac i fyw gyda gonestrwydd. Efallai y byddi di’n teimlo straen pan fydd yn rhaid i ti wneud penderfyniad anodd, ond bydd Duw yn dy atgoffa pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, mae'n dal yn werth chweil.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More