Ddim yn iawnSampl
Mae gan bron bob gêm gardiau yn y byd un peth yn gyffredin: Dwyt ti ddim i fod i edrych ar gardiau rhywun arall! Twyllo fyddai hynny, a does dim angen dweud am beidio gwneud.
Ond gad i ni fod yn onest. . . Weithiau, mae'n anodd peidio â thwyllo. Mae rhywun yn gosod eu cardiau ar y bwrdd wyneb i waered i fachu ychydig o fyrbrydau o'r gegin, ac rwyt ti'n gwybod y byddai'n hawdd cymryd cipolwg tra maen nhw i ffwrdd. Siawns does dim o’i le ar hynny? Mae'n dwyllo dim ond os gei di dy ddal!
Mae'r un peth mewn bywyd weithiau. Pam mae hi’n wirioneddol bwysig os ydyn ni’n gwneud y peth iawn ai peidio pan nad oes neb yn edrych? Wel, yn ôl y Beibl, mae rhywun bob amser yno i'n dal ni'n atebol.
Mae Iesu yn dweud ei fod o bwys a ydych chi'n gwneud y peth iawn neu'r peth anghywir, yn enwedig pan nad oes neb yn edrych. Anogodd ei ddisgyblion i gofio bod Duw yn gwobrwyo pobl sy'n gwneud gweithredoedd da yn y dirgel.
Ti'n gweld, weithiau mae pobl yn gwneud pethau da yn unig fel bod pawb sy'n eu gweld yn gwybod pa mor dda ydyn nhw. Dydyn nhw ddim yn poeni am yr hyn sy'n iawn a beth sy'n anghywir. Maen nhw eisiau i bobl feddwleu bod nhw'n dda. Dywed Iesu ei bod yn llawer gwell i ni wneud pethau da pan does nebyn ein gweld. Efallai na chawn ganmoliaeth amdano. Efallai na fyddwn yn cael unrhyw wobrau na sylw arbennig. Ond mae Duw yn gweld y pethau dŷn ni'n eu gwneud yn y dirgel, ac nid yw Duw yn eu hanghofio. Mae'n werth chweil.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More