Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 16 O 28

Dychmyga nad oeddet ti a'th ffrindiau erioed wedi chwarae gêm Monopoly o'r blaen. Yna, un diwrnod, rwyt ti'n dod o hyd i'r blwch mewn cwpwrdd, yn ei dynnu allan, ac yn penderfynu ei chwarae. Nid oes unrhyw lyfr rheolau na chyfarwyddiadau, felly rwyt ti'n ceisio darganfod sut i chwarae'r cyfan ar dy ben dy hun. Wyt ti'n meddwl y byddet ti'n gallu dyfalu unrhyw un o'r rheolau'n gywir? Beth yw pwrpas yr holl arian ffug? Pam fod yna dai bach plastig? Sut mae'r cardiau'n gweithio?

Os wyt ti ond yn dyfalu sut i chwarae gêm fwrdd, mae'n debyg y byddi di'n dyfalu'n anghywir. Dyna pam mae gynnon ni lawlyfrau cyfarwyddiadau! Cyn belled â bod gen ti lyfr rheolau gerllaw, nid oes rhaid i ti ddyfalu beth sy'n iawn a beth sy'n anghywir. Rwyt ti’n gallu gwirio'r rheolau.

Os wyt ti'n ceisio dyfalu beth mae'n ei olygu i fynd drwy fywyd, efallai dy fod di yr un mor ddryslyd. Mae bywyd yn gymhleth, gyda llawer o ddarnau teimladwy a newidiadau annisgwyl. Ddylet ti ddim ceisio ei ddarganfod ar dy ben dy hun yn unig. . . ac yn ôl y Beibl, does dim rhaid i ti.

Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu yn dal yr holl greadigaeth gyda’i gilydd. Ef yn y bôn yw'r un a wnaeth y gêm! Mae'n gwybod yr holl reolau ac, yn bwysicach fyth, mae'n dy garu di ac eisiau i ti wybod y da a'r drwg. Os wyt ti dan straen ac yn poeni am ba gamau i'w cymryd neu beth yw'r canllawiau, mae gen ti i gysylltiad â rhywun sydd eisiau dy helpu.

Diwrnod 15Diwrnod 17

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org