Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 19 O 28

Mae yna reswm mae pobl athrylithgar yn hoffi chwarae gwyddbwyll. Mae'n gêm galed! Rwyt ti’n gallu gwybod yr holl reolau ynglŷn â sut y gall y gwahanol ddarnau symud a dal i gael trafferth gyda'r union beth rwyt ti i fod i'w wneud. Mae rhai pobl yn treulio eu bywydau cyfan yn dysgu sut i ddod yn arbenigwyr gwyddbwyll.

Os wyt ti'n dod yn wirioneddoldda, mae modd cystadlu i ddod yn brif feistr - y lefel uchaf o arbenigwr gwyddbwyll yn y byd! Ond mae'n cymryd amser hir, llawer o ymarfer, a meddwl gwych. Nid yw pawb â’r ddawn i fod yn arbenigwr gwyddbwyll.

Gall bywyd fod ychydig fel gwyddbwyll weithiau. Rwyt yn gwybod yr holl reolau am dda a drwg a dal i gael trafferth gyda'r hyn rwyt ti i fod i'w wneud. Nid yw'n hawdd. Dyna pam nad yw pawb yn dewis gwneud y peth iawn. Mae'n llawer haws gwneud yr hyn sydd hawsaf!

Mae'r Beibl yn ei alw'n "ffordd gul." Pe bai'r ffordd yn fawr ac yn llydan, byddai'n llawer haws cerdded ymlaen heb ddisgyn ar y naill ochr na'r llall. Ond pan fo ffyrdd yn gul, rhaid i ti fod yn llawer mwy gofalus. Mae'n cymryd amser, amynedd ac ymarfer i aros ar ffordd gul, ond mae'n ein harwain i wneud dewisiadau er ein lles.

Felly ydy, nid yw bob amser yn hawdd gwybod y da o’r drwg. Mae geiriau Duw yn ein hatgoffa mai felly y byddai, ond gydag amser ac amynedd, rwyt yn gallu dysgu sut i gerdded y ffordd gul.

Diwrnod 18Diwrnod 20

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org