Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 11 O 28

Gall gwrthodiad ddod o sawl cyfeiriad. . .

Gall ffrindiau dy wrthod sy'n penderfynu nad ydyn nhw am dreulio amser gyda thi ddim mwy.

Gall partner dy wrthod sy'n penderfynu ei bod yn bryd gwahanu.

Rwyt yn gallu cael dy wrthod gan dîm chwaraeon rwyt yn rhoi cynnig ar ei gyfer, swydd neu goleg rwyt yn gwneud cais iddo, neu ysgoloriaeth yr oeddet ti’n meddwl y byddet ti’n ei chael. A dyma'r peth. . . waeth o ble y daw'r gwrthodiad hwnnw, mae bob amser yn brifo. Nid yw'n mynd yn haws. Mae gwrthodiad bob amser yn teimlo'n bersonol. Mae bob amser yn anodd dod dros hynny a symud ymlaen.

Waeth o ble mae'r ffynhonnell honno o wrthod yn dod, rwyt yn gallu mynd ag ef i'r un lle bob amser. Mae Pedr yn sgwennu yn narlleniad y Beibl heddiw ein bod ni’n gallu bwrw ein holl straen a’n gofid ar Dduw. Efallai y byddwn mewn poen am ychydig, ond mae Duw yn addo cymryd ein pryderon, straen, ac, ie, hyd yn oed ein gwrthodiad. Nid yw hynny'n golygu y bydd y boen yn diflannu dros nos. Nid dyna sut mae gwrthodiad yn gweithio. Ond mae'n golygu nad oes rhaid i ni fynd drwyddo ar ein pennau ein hunain.

Mae gan Pedr nodyn atgoffa da arall yn narlleniad heddiw hefyd. . . nid ni yw'r unig rai sy'n mynd trwy hyn! Pan fyddwn yn teimlo ein bod yn cael ein gwrthod, mae'n hawdd teimlo'n unig. Ond y gwir yw, mae llawer o bobl wedi mynd trwy'r un peth ac yn y pen draw dod allan yr ochr arall. Efallai nad yw'n teimlo fel hyn ar hyn o bryd, ond un diwrnod fe fyddi di hefyd.

Ysgrythur

Diwrnod 10Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org