Ddim yn iawnSampl

Y Beatles yw’r band roc enwocaf mewn hanes ac un o berfformwyr cerddorol mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf. Felly, pa mor rhyfedd yw hi eu bod o fewn dim i beidio llwyddo? Pan ddechreuon nhw, dim ond pedwar bachgen yn eu harddegau oedden nhw nad oedden nhw oedd yn methu dod o hyd i label a oedd am eu harwyddo. Gawson nhw eu gwrthod bedair gwaith cyn i rywun roi cyfle iddyn nhw. Dywedodd un cynhyrchydd cerddoriaeth mawr wrthyn nhw nad oedd ganddo ddiddordeb oherwydd bod "cerddoriaeth gitâr ar ei ffordd allan."
Mae'n hawdd i ni synnu bod rhywun wedi gwrthod y Beatles nawr. Mae gennym ni bersbectif nad oedd gan y bobl hynny. Gallwn weld y stori gyfan.
Yn yr un modd, mae'n eithaf hawdd inni feddwl pam y gwrthododd cymaint o bobl Iesu. Nid dim ond ei wrthod a wnaethon nhw. . . wnaethon nhw ei roi i f i farwolaeth ar groes. Sut na allen nhw fod wedi deall pwy ydoedd mewn gwirionedd?
Efallai nad ydym yn deall, ond fe wnaeth Iesu. Cymerodd y gwrthodiad hwnnw o’i wirfodd. Yn narlleniad y Beibl heddiw, proffwydodd Eseia y byddai Iesu’n dioddef ac yn treulio llawer o’i fywyd mewn poen. Roedd yn gwybod ei fod yn mynd i ddigwydd iddo. Daeth i'r ddaear beth bynnag. Nid oherwydd ei fod eisiau cael ei wrthod ond oherwydd ei fod eisiau dangos cymaint y mae'n ein caru ni.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More
Cynlluniau Tebyg

Ymarfer y Ffordd

Hadau: Beth a Pham

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Coda a Dos Ati

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Rhoi iddo e dy Bryder
