Ddim yn iawnSampl
Ychydig flynyddoedd yn ôl, lluniodd arbenigwyr restr o’r geiriau anoddaf i’w dweud yn yr iaith Saesneg. Mae yna isthmus, sy'n golygu llain gul o dir. Rhy hawdd i ti? Beth am yr un yma: sesquipedalian. Creda neu beidio, mae hynny'n golygu "wedi'i nodweddu gan ddefnyddio geiriau hir."
Ni ddaeth un o'r geiriau anoddaf i'w ddweud yn yr iaith Saesneg ar y rhestr. Mae hynny oherwydd nad yw'n anodd ynganu, ond mae'n anodd dweud: sori.
Mae "sori" yn golygu cyfaddef i rywun arall dy fod wedi gwneud llanast. Mae'n golygu dy fod yn sylweddoli bod rhywun wedi'i frifo gan yr hyn ddwedes ti neu a wnes di, a'th fod am drio ei wneud yn iawn. Mae’n symudiad bregus - ac mae’n bwysig. Mae Iago yn sgwennu ei bod hi'n bwysig cyffesu dy bechodau i'n gilydd, gan adael i ni wybod arwyddocâd bod yn onest â'n gilydd, hyd yn oed pan fo'n fwyaf heriol.
Pan fydd gwrthdaro yn digwydd a bod rhywun yn teimlo ei fod yn cael ei wrthod, bydd yn rhaid i ti wneud pethau'n iawn gyda nhw yn hwyr neu'n hwyrach. Mae hynny'n mynd i olygu dweud sori, ac nid yw hynny'n hawdd. Mae'r Beibl yn dweud bod y rheswm ei bod mor bwysig cyfaddef pan dŷn ni'n gwneud rhywbeth o'i le yn syml: dyna sut dŷn ni'n dechrau'r broses iacháu. Felly, dos ati i feistroli’r gair yma a gad i'r iachau ddechrau.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More