Ddim yn iawnSampl
Wyt ti'n cofio adeg pan ges di dy wrthod? Efallai dy fod wedi gofyn i rywun gymdeithasu neu gynnig syniad am brosiect grŵp a gafodd ei ddiystyru. Efallai dy fod hyd yn oed wedi gwneud rhywbeth roeddet ti’n gwybod na ddylet ti oherwydd dy fod yn poeni am gael dy wrthod gan y grŵp o bobl roeddet ti gyda nhw. Mae gwrthod yn gymhelliant pwerus i ni, a gall y boen yr ydym yn ei gysylltu â gwrthod fod yn wirioneddol ingol.
Yn y darlleniad heddiw, wnei di glywed am yr amser yr anfonodd Iesu ei ddisgyblion i deithio o dref i dref. Dywedodd wrthyn nhw am rannu neges gyda phobl a rhoddodd gyfarwyddiadau penodol iawn iddyn nhw am yr hyn roedden nhw'n cael mynd gyda nhw. Ar ben hynny, dwedodd wrthyn nhw yn union beth i'w wneud pe bai pobl tref yn gwrthod eu neges. Mae bron fel petai Iesu’n disgwyl i’w ddisgyblion gael eu gwrthod.
Allwn ni ddim rheoli sut mae pobl yn ymateb i ni pan fyddwn yn dechrau rhannu pwy yw Iesu. Bydd rhai pobl yn cofleidio'r neges, a bydd eraill yn gwrthod y pethau dŷn ni wedi'u rhannu. Ond waeth beth sy'n digwydd i ni pan fyddwn yn mynd allan i'r byd i ddweud wrth eraill am Iesu, mae bob amser yn ein croesawu yn ôl. Er bod y gwrthodiadau wedi brifo, gallai’r disgyblion edrych at Iesu i’w hangori a’u hatgoffa o sut maen nhw’n perthyn. Os wyt ti wedi cael dy wrthod yn ddiweddar neu os wyt ti'n ofni cael dy wrthod yn y dyfodol, edrycha at Iesu i ddangos i ti ble rwyt ti'n perthyn. Pan fydd pobl yn dy wrthod, ni fydd Iesu byth..
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More