Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 6 O 28

Pan fyddi di'n paratoi ar gyfer taith ffordd, mae'n rhaid i ti gynllunio ymlaen llaw. Mae'n rhaid i ti wneud yn siŵr bod gen ti ddigonedd o fyrbrydau ar gyfer y daith. Mae'n rhaid i ti gael dy holl gyfarwyddiadau wedi’u gosod ar Waze. Mae'n rhaid i ti wybod faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyrraedd lle rwyt ti’n mynd. Ac, yn bwysicaf oll, mae'n rhaid i ti gael rhywfaint o danwydd yn y tanc. Ei di ddim yn bell iawn ar daith ffordd hir heb unrhyw danwydd.

Mae'n un peth trefnu hynny ar gyfer taith ffordd. Peth arall yw ei drefnu mewn bywyd. Efallai dy fod wedi cael profiad lle rwyt ti'n teimlo nad oes gen ti unrhyw beth arall yn dy danc tanwydd. Rwyt ti'n rhedeg pan wyt ti’n bron yn wag. Rwyt ti mor bryderus, dan straen, ac wedi blino delio â'r holl ddrama dyddiol fel nad wyt ti'n gwybod sut i gymryd cam arall.

Mae’r Beibl yn sôn am deimlo fel hyn. A’r newyddion da yw bod awdur y Salmau wedi darganfod beth i’w wneud pan fydd yn digwydd: bod â gobaith yn Nuw.

Pan fydd dy obaith ynot ti dy hun, byddi di'n rhedeg allan o danwydd. Ond pan fyddi di'n gobeithio yn Nuw, rwyt ti'n gysylltiedig â ffynhonnell gobaith diderfyn. Mae’r Beibl yn ei ddisgrifio fel gallu rhedeg heb flino. Os wyt ti'n cynllunio taith ffordd, gwna’n siŵr dy fod yn gwybod faint o danwydd y bydd yn ei gymryd i fynd ȃ ti i ble rwyt ti eisiau mynd. Ond os wyt ti'n trio cynllunio ymlaen llaw mewn bywyd, mae gen ti'r holl egni sydd ei angen arnat ti. . . mae'n rhaid i ti gysylltu â'r ffynhonnell gywir.

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org