Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 5 O 28

Gall rheoli straen a phryder deimlo fel dy fod yn jyglo pinnau bowlio. Cyn belled mai dim ond dau neu dri sydd gen ti, rwyt ti'n gwneud yn iawn. Rwyt ti’n gallu dygymod ȃ hynny! Ond yna mae gen ti bedwar neu bum pin bowlio sy'n rhaid iti ddal a’u troelli, ac mae pethau'n mynd ychydig yn fwy heriol. Erbyn i ti gyrraedd chwech neu saith, wel . . . waeth iti rhoi’r gorau iddi.

Mae gynnon ni i gyd ein terfynau. Mewn gwirionedd dim ond cymaint o straen y gall un person ddygymod ag e ar y tro! A phan fyddi di'n cyrraedd dy uchafbwynt ar gyfer straen, rwyt ti fel blwch cardbord gyda gormod o bethau ynddo. Rwyt ti'n mynd i deimlo fel gollwng y ddarnau.

Pan fydd hyn yn digwydd, y peth cyntaf i'w gofio yw peidio â bod yn rhy galed arnat ti dy hun. Nid yw bywyd i fod yn straen cyson, ac nid ydych yn ddrwg nac yn wan am fod dan ormod o straen. Dŷn ni i gyd angen seibiant weithiau. Mae angen help arnom ni i gyd.

Yr hyn sy’n bwysicach fyth i’w gofio yw bod Duw yn cynnig lle diogel inni pan dŷn ni’n teimlo dan straen ac yn poeni. Efallai y byddwn ni'n teimlo ein bod ni'n rhedeg allan o obaith am ba bynnag heriau dŷn ni'n eu hwynebu, ond nid oes gan Dduw unrhyw gyfyngiadau ar obaith. Pan dŷn ni'n teimlo ein bod ni i gyd allan o egni, mae Duw yna inni.

Mae awdur y Salmau yn siarad llawer am "edrych at Dduw". Yn y bôn, mae hynny'n golygu eu bod wedi penderfynu rhoi'r gorau i edrych atyn nhw eu hunain i ddatrys eu holl broblemau ac wedi dechrau edrych at yr un a all eu harwain i'r cyfeiriad cywir.

Ysgrythur

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org