Ddim yn iawnSampl
Wyt ti erioed wedi cael ffilm, llyfr, neu sioe deledu wedi'u difetha i ti? Dwedodd rhywun hynny wrthot ti ar ddamwain - hen dro gwael! - mai Darth Vader yw tad Luke neu bod Iron Man yn marw yn Endgame, neu pwy gafodd y rhosyn ar The Bachelor cyn i ti allu eu gwylio drosot ti dy hun!? Mae'n eithaf annifyr. Nawr dy fod yn gwybod sut maen nhw’n dod i ben, pam hyd yn oed trafferthu gwylio'r gweddill?
Ond weithiau, wyt ti ddim yn dymuno i Dduw ddifetha'r diwedd? Os yw Duw’n gyfrifol am bopeth go iawn, yna beth am hepgor yr holl bethau drwg - yr holl ryfeloedd, y salwch, a'r calonnau toredig - a chyrraedd y diwedd hapus?
Mae'n hawdd dymuno i Dduw garlamu ymlaen at y diwedd. Ond pan dŷn ni'n dechrau teimlo felly, mae'n bwysig cofio cymaint yw Duw yn fwy nag ydyn ni. Yn yr un ffordd ȃ phan nad ydy dy gi yn deall pam mae'n rhaid aros i'r golau droi'n wyrdd cyn croesi'r stryd, dydyn ni ddim bob amser yn deall pam mae Duw yn cymryd cymaint o amser. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes rheswm da!
Mae Pregethwr 3:1 yn ei roi fel hyn: Mae amser wedi ei bennu i bopeth. Mae hynny'n golygu bod amser ar gyfer pethau da, ond mae yna hefyd amser ar gyfer heriau. Gall yr heriau hynny fod yn straen. Efallai y byddan nhw'n ein poeni ni. Ond nid yw hynny'n golygu nad ydyn nhw'n rhan o gynllun Duw. Ac mae gan y cynllun hwnnw ddiweddglo hapus. . . hyd yn oed os na allwn ei weld eto.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More