Ddim yn iawnSampl
Beth yw ystyr y gair "gobaith"?
I rai pobl, yn y bôn, mae'n golygu gobeithio am y gorau. Dwyt ti ddim yn gwybod a fydd pethau'n dda neu'n ddrwg, ond rwyt ti'n "gobeithio" eu bod nhw'n dda. Dwyt ti ddim yn gwybod a wyt ti am gyrraedd y coleg roeddet ti ei eisiau, cael gradd dda mewn arholiad, neu gael rhan dda yn nrama'r ysgol . . . ond yn sicr rwyt ti’n "gobeithio" felly.
Pan fydd pobl yn defnyddio "gobaith" fel hyn, maen nhw wir yn golygu bod yn "optimistaidd." Maen nhw'n edrych ar y gwydr fel hanner llawn. Maen nhw'n ceisio bod yn optimistaidd am y dyfodol. A does dim byd o'i le ar hynny! Mae'n dda bod yn optimistaidd. Ond nid dyna mae’r Beibl yn ei olygu pan mae’n sôn am obaith.
Yn y darlleniad o’r Beibl heddiw, mae Paul yn dweud wrth ei ffrindiau yn Rhufain am obaith, ond nid yw’n sôn am optimistiaeth. Yn lle hynny, mae Paul yn dweud bod gennym ni "obaith gogoniant Duw." Nid yw hynny'n golygu ein bod yn meddwl am Dduw fel taflu darn arian i’r awyr a fydd, gobeithio, yn ben ac nid yn gynffon. Mae'n golygu ein bod ni'n trystio yn Nuw oherwydd dŷn ni'n gwybod bod Duw yn rheoli ein dyfodol. Nid teimlad da yn unig yw "gobeithio" yn Nuw - mae'n realiti dŷn ni'n ei gredu, hyd yn oed pan fydd pethau'n anodd.
Ac mae pethau'n mynd yn anodd weithiau! Pan dŷn ni'n mynd trwy gyfnod anodd, yn profi straen neu ofid, mae'n hawdd rhoi'r gorau i "deimlo" fel y gallwn ni obeithio yn Nuw. Ond mae Paul yn dweud mai dyna'r amseroedd pan fydd Duw yn defnyddio ein gobaith i'n mireinio ni.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.
More