Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ddim yn iawnSampl

Not Okay

DYDD 2 O 28

Yn ôl yng nghyfnod y Beibl, roedd gwaith plymwr modern ymhell i ffwrdd. Mae hynny'n golygu dim cawod cyflym, hawdd yn y bore, na throi’r tap ymlaen am wydraid cyflym o ddŵr. Yn lle hynny, roedd y rhan fwyaf o drefi yn dibynnu ar ffynnon leol. Bob bore, roedd rhywun o bob tŷ yn mynd i lawr at y ffynnon gyda bwced neu ddau i gasglu cymaint o ddŵr ag y gallen nhw ei gario adref. Ac wedyn, roedd yn rhaid i arbed y dŵr hwnnw nes bod ei wir angen - fel arall, byddai'n rhaid i gwneud taith arall i'r ffynnon.

Roedd hynny’n golygu bod yn rhaid i bobl, yn nyddiau Iesu, fod yn llawer mwy cynnil wrth gael diod o ddŵr. Mae'n debyg ei fod yn eithaf annifyr! Roedden nhw’n byw mewn hinsawdd boeth, yn cerdded i bobman, ac roedd gan bawb fwy neu lai lawer o dasgau corfforol ymdrechgar. Roedd pobl yn llawer mwy sychedig. Ond roedd yn rhaid iddyn nhw fod yn ofalus pa mor aml roedden nhw'n yfed dŵr.

Felly, rwyt ti’n gallu dychmygu pam fod geiriau Iesu, yn y darn heddiw, wedi cyffroi ei gynulleidfa gymaint. Dŵr a fyddai'n torri syched yn gyfan gwbl! Fyddai neb yn gwrthod hynny debyg?!

Ond doedd Iesu ddim yn sôn am syched corfforol. Yr oedd yn sôn am rywbeth dyfnach a phwysicach fyth - roedd yn sôn am y gobaith y mae’n ei gynnig. I'r rhan fwyaf ohonom, mae gobaith yn rhywbeth dŷn ni'n rhedeg allan ohono’n hawdd. Dŷn ni'n poeni neu dan straen, ac mae'n teimlo bod ein gobaith wedi diflannu. Ond mae Iesu'n dweud na fyddi dii byth yn sychedig eto gydag un llymaid o'i obaith e.

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Not Okay

Byddwn yn edrych ar bedwar prif straen yr ydym i gyd yn delio â nhw a gweld sut y gall geiriau Duw roi cysur, arweiniad a chymorth i ni gyda phob un ohonyn nhw. Byddwn yn siarad am yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig i ti pan nad wyt ti'n iawn, beth mae Duw eisiau i ti ei wybod pan fydd pobl yn dy wrthod di, beth i'w wneud pan nad yw'n hawdd gwneud yr hyn sy'n iawn, a phan fyddwn ni'n teimlo'n bryderus, fe gawn ni weld beth sydd gan Dduw i'w ddweud.

More

Hoffem ddiolch i Stuff You Can Use am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://growcurriculum.org