Y Grefft o OresgynSampl
Diwrnod 7: Mae Llawenydd yn Cael y Chwerthiniad Olaf
Dw i wedi gweld llawenydd mewn llawer o angladdau.
I ddweud y gwir, yn y mwyafrif o angladdau. Hyd yn oed mewn poen a thristwch, mae'n gyffredin clywed ffrindiau a theulu yn mynegi llawenydd. Yn aml, pan fyddan nhw’n codi i siarad yn yr angladd, maen nhw’n chwerthin-crio-chwerthin eu ffordd trwy eu geiriau. Pan fydd pawb yn cwrdd ar gyfer y te angladd ar ôl yr angladd, mae yna ddagrau a chwerthin wrth i bobl gofio'r amseroedd da a gawson nhw gyda'r ymadawedig.
Ysgrifennodd Dafydd yn Salm 30:5, “Gall rhywun fod yn crïo wrth fynd i orwedd gyda'r nos; ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu'n llawen.” Mae Paul yn dweud rhywbeth tebyg yn 2 Corinthiaid 4:17, “Dydy'n trafferthion presennol ni'n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para'n hir. Ond maen nhw'n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw.” Llwyddodd Dafydd a Paul i edrych heibio poen y foment a gweld bod rhywbeth gwell o'u blaenau.
Yn amlwg, nid llawenydd yw’r emosiwn cyntaf a deimli pan fydd marwolaeth yn taro. Yn dilyn colled gynnar, mae'r boen yn real, mae'r loes yn plymio'n ddwfn, a gall y tristwch deimlo'n llafurus. Ydy, mae crio yn aros am y noson - ac yn aml mae'n noson hir, dywyll go iawn.
Ond mae pob noson yn dod i ben. Mae hyd yn oed y nosweithiau hiraf, tywyllaf, tristaf yn dod i ben. Mewn amser priodol mae hi’n gwawrio, mae’r goleuni yn ymlid y tywyllwch ymaith, a gobaith yn codi drachefn. Pan fyddi di'n crio yn y nos, mae'n bwysig cofio bod y bore yn dod, a llawenydd ar ei ffordd.
Nid yw Llawenydd yn dileu dy ddioddefaint nac yn adfer dy golled, wrth gwrs. Ar y tu allan does dim byd yn newid. Ond ar y tu mewn, mae popeth yn newid. Pan fydd dy alar yn dechrau cael ei drawsnewid gan lawenydd yr Arglwydd, mae cryfder yn dychwelyd, a gobaith yn codi. Rwyt ti'n cael persbectif cliriach, mwy cadarnhaol o'r golled wnes di ddioddef a'r dyfodol sy'n aros.
Wrth gwrs, elli di ddim gorfodi llawenydd i ymddangos yn fwy nag y gelli di orfodi iddi wawrio. Mae amseru yn bwysig. Tymhorau yn mynd a dod. Ar hyn o bryd, efallai dy fod di'n crio, ac mae hynny'n iawn - ond cymera gysur, fyddi di ddim yn crio am byth. Heddiw fe allet ti fod yn galaru, ond byddi di'n dawnsio'n ddigon buan. Mae llawenydd bob amser yn cael y chwerthiniad olaf.
Nid oes angen i ti orfodi llawenydd, ond dylet ei ddisgwyl. A phan ddaw, croeso iddo. Gorffwysa ynddo. Iachau ynddo. Tyrd o hyd i gryfder ynddo.
____________________________________________
A oedd y Cynllun hwn yn ddefnyddiol? Fe wnaethom addasu'r Cynllun hwn o The Art of Overcoming gan Tim Timberlake. Darllena’r llyfr cyfan! Mynna dy gopi heddiw! Mae pob pryniant yn rhoi Beibl i rywun mewn angen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae bywyd yn llawn anawsterau, colledion, siomedigaethau a phoen. Bydd y “Grefft o Oresgyn” yn dy helpu i ddelio â cholled, galar a loes. Mae’n ymwneud â gwrthod caniatáu i’r pethau sy’n edrych fel terfyniadau dy ddigalonni neu dy ddiarddel. Yn hytrach, gad i Dduw eu troi yn ddechreuadau. Pan fydd bywyd yn ddryslyd ac yn anodd, paid â rhoi'r gorau iddi. Edrych i fyny. Waeth pa foment anodd neu golled boenus rwyt ti'n ei wynebu, mae Duw gyda thi.
More