Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Grefft o OresgynSampl

The Art of Overcoming

DYDD 4 O 7

Diwrnod 4: Sut i Ddelio â Breuddwydion wnaeth chwalu

Wyt ti erioed wedi cael breuddwyd ddaeth ddim yn wir?

Efallai ei fod yn syniad busnes yr oeddet ti'n gwybod y byddai'n gwneud miliynau i ti. Efallai mai y freuddwyd o ramant perffaith chwalodd.

Weithiau dydyn ni ddim, yn byw gyda hapusrwydd diddiwedd. dydy breuddwydion ddim yn dod yn wir bob amser. Ac i fod yn onest, ddylai rhai breuddwydion ddim dod yn wir. Ond dydy hynny ddim yn gwneud iddyn nhw frifo ddim llai pan fyddan nhw’n chwalu o flaen ein llygaid.

Mae breuddwydwyr yn agos at galon Duw - mae’r Beibl yn llawn ohonyn nhw. Dydy’r ffaith nad ydy ychydig o'th freuddwydion wedi troi allan i fod yn hunllefau ddim yn golygu y dylet ti roi'r gorau i freuddwydio.

Ond cofia efallai y bydd yn rhaid i'th freuddwyd farw cyn iddi fyw.

Yn y Beibl, mae stori Joseff y breuddwydiwr yn gorffen yn hapus. Ond bu’n rhaid i Joseff fynd trwy sawl profiad marwolaeth i gyrraedd yno, gan gynnwys brad, caethwasiaeth, blynyddoedd o waith caled, a blynyddoedd yn y carchar. Dw i’n siŵr bod adegau pan oedd yn meddwl bod ei fywyd ar ben a bod pob gobaith wedi’i golli.

Ond pan oedd yr amser yn iawn, cyflawnodd Duw ei freuddwyd mewn ffordd a oedd yn llawer mwy nag y gallai Joseff fod wedi’i ddychmygu.

Mae breuddwydion Duw bob amser yn fwy na breuddwydion dynol. Weithiau mae'n rhaid i'n breuddwydion farw, dros dro o leiaf, er mwyn inni allu marw i'n breuddwydion. Hynny yw, mae'n rhaid i ni dynnu ein syniadau a'n hunan-ddibyniaeth oddi ar y pedestal a'u rhoi ar yr allor. Weithiau mae marwolaeth ein breuddwydion bach yn gwneud lle i wireddu breuddwyd fawr Duw. Rhaid i'n breuddwyd dda farw i wneud lle i'r freuddwyd well, i freuddwyd mawr Duw.

Unwaith y byddwn ni’n dod o hyd i’n sicrwydd a’n hyder yn Nuw yn hytrach na rhyw gyflawniad neu glod dros dro, byddwn ni’n gallu dilyn ein breuddwydion heb golli ein hunain yn y broses.

Felly, os wyt ti’n delio â digalondid a phoen dros freuddwyd na ddaeth byth yn wir, manteisia ar y foment hon i ddod yn nes at Dduw. Rho ddisgwyliadau iddo. Gad iddo ddal gafael yn dy freuddwyd am ychydig.

Yr wyt yn ddiogel yn ei freichiau, a'th freuddwyd yn ddiogel yn ei ddwylo e.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

The Art of Overcoming

Mae bywyd yn llawn anawsterau, colledion, siomedigaethau a phoen. Bydd y “Grefft o Oresgyn” yn dy helpu i ddelio â cholled, galar a loes. Mae’n ymwneud â gwrthod caniatáu i’r pethau sy’n edrych fel terfyniadau dy ddigalonni neu dy ddiarddel. Yn hytrach, gad i Dduw eu troi yn ddechreuadau. Pan fydd bywyd yn ddryslyd ac yn anodd, paid â rhoi'r gorau iddi. Edrych i fyny. Waeth pa foment anodd neu golled boenus rwyt ti'n ei wynebu, mae Duw gyda thi.

More

Hoffem ddiolch i Biblica am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.biblica.com/timtimberlake