Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Grefft o OresgynSampl

The Art of Overcoming

DYDD 6 O 7

Diwrnod 6: Dod o Hyd i Heddwch Trwy Gael dy Dderbyn

Nid dim ond torri y mae calonnau. Maen nhw’n hefyd yn mendio.

Dyna pam mai un o'r camau pwysicaf tuag at ddygymod yw derbyn colled - penderfyniad emosiynol, meddyliol, a hyd yn oed ysbrydol i wneud heddwch â'n colled ac i wneud y gorau o'n dyfodol.

Efallai eich bod wedi clywed am Job, y dyn tlawd yn y Beibl a gollodd bron bopeth yr oedd yn ei werthfawrogi mewn ychydig ddyddiau.

Mae Job yn fodel gwych o dderbyniad oherwydd ei fod yn gwbl dryloyw gyda’i ddioddefaint, ond roedd hefyd yn gallu rhyddhau rheolaeth i Dduw. Roedd ei dderbyn yn ganlyniad naturiol cydnabod sofraniaeth Duw. Roedd yn gwybod ble roedd y llinell rhwng yr hyn y gallai ei reoli a'i drwsio, a'r hyn na allai.

Wyddon ni ddim pa mor hir y parhaodd dioddefaint Job. Mae'n debyg ei bod yn fisoedd, o leiaf. Efallai blynyddoedd. Ond daeth i ben. Dyna un o bwyntiau allweddol y gyfrol. Dyfalbarhaodd, arhosodd, ymddiriedodd. Ar yr un pryd, dioddefodd, cwynodd, a gofynnodd gwestiynau. Nid yw'r pethau hynny'n annibynnol o’i gilydd.

Yn y diwedd fe wnaeth Duw hi’n glir ei bod hi’n bryd rhoi’r gorau i fyw yn y gorffennol. Roedd am i Job wneud heddwch â'r presennol. Dim ond trwy gymryd heddwch Duw ymlaen y gallai hynny ddigwydd, heddwch sy'n mynd y tu hwnt i resymeg a dealltwriaeth ddynol.

Felly beth amdanat ti?

Ble wyt ti yn y broses o dderbyn galar? Wyt ti'n dal i gael dy hun yn ymladd am rywbeth y mae angen i ti ei ollwng neu ddal gafael ar rywbeth na elli di ei gael yn ôl? Oes gen ti leisiau yn sibrwd yn dy glust (fel Job) sy’n awgrymu mai dy fai di yw dy ddioddefaint? Neu a wyt ti'n clywed llais o'r nef yn dy atgoffa nad oes lle gwag ar gyfer swydd rheolwr y bydysawd, a bod angen i bawb ymdawelu ychydig a gadael i Dduw fod yn Dduw?

Waeth ble rwyt ti, dw i ddim yna i ‘th farnu, a dw i ddim ychwaith yn trio dy ruthro ymlaen.

Yn bennaf, dw i eisiau dy atgoffa bod Duw yn dal yn dda a'i fod yn dal i reoli. Dalia ati. Dalia i gredu. Dalia ati i ymdeimlo â heddwch Duw. Dw i wir yn credu dy fod, fel Job, yn mynd i weld daioni a bendith Duw eto.

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

The Art of Overcoming

Mae bywyd yn llawn anawsterau, colledion, siomedigaethau a phoen. Bydd y “Grefft o Oresgyn” yn dy helpu i ddelio â cholled, galar a loes. Mae’n ymwneud â gwrthod caniatáu i’r pethau sy’n edrych fel terfyniadau dy ddigalonni neu dy ddiarddel. Yn hytrach, gad i Dduw eu troi yn ddechreuadau. Pan fydd bywyd yn ddryslyd ac yn anodd, paid â rhoi'r gorau iddi. Edrych i fyny. Waeth pa foment anodd neu golled boenus rwyt ti'n ei wynebu, mae Duw gyda thi.

More

Hoffem ddiolch i Biblica am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.biblica.com/timtimberlake