Y Grefft o OresgynSampl
Diwrnod 5: Mae Duw Eisiau'r Meic yn ôl.
Wyt ti erioed wedi dioddef trwy araith angladd a oedd yn rhedeg 10 gwaith yn hirach nag yr oedd i fod? Dw i'n gwybod mod i wedi. Pam fod meicroffonau yn achosi i bobl golli golwg ar amser yn llwyr?
Nid dy ewythr hirwyntog yw’r unig un sy’n euog o herwgipio angladdau. Dŷn ni’n aml yn gwneud yr un peth pan ddaw i'n profiadau gyda marwolaeth. Dŷn ni’n galaru ar eu hôl, yn eu cofio, yn hiraethu - ond dydyn ni ddim yn talu sylw i'r amser. Dŷn ni’n mynd yn sownd yn y broses alaru ac yn gwrthod symud ymlaen.
Yn hwyr neu'n hwyrach, mae Duw eisiau'r meic yn ôl.
Mae angen i'r angladd symud ymlaen. Felly, mae’n ein hannog â gwthiad ysgafn ein bod yn dal y broses alaru yn ôl. Mae'n ein hannog i ollwng gafael a symud ymlaen. Mae angen i'r gladdedigaeth ddigwydd, ond wneith e ddim os ydyn ni’n mynnu ail-fyw'r golled drosodd a throsodd.
Yn Salm 23 (Bcnd), sgwennodd Dafydd y geiriau gwych, “Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi,” Sylwa fod Dafydd wedi sôn am gerdded dyffryn. Nid yw cymoedd marwolaeth a thywyllwch i fod yn gartrefi hirdymor. Maen nhw i fod i gael eu teithio drwyddyn nhw, does neb yn byw ynddyn nhw yn barhaol. Efallai y bydd y daith honno'n cymryd peth amser, ond dylai fod yna symud ymlaen.
Dydw i ddim yn ceisio dweud wrthot ti sut i alaru, ond dw i'n dweud wrthot ti am gofio dy fod dal yng ngwlad y byw hyd yn oed pan fyddi di’n galaru am y meirw. Mae byd eang, hardd yn aros, ac rwyt ti'n rhan annatod o'r byd. Paid â sefyll yno yn gafael yn y meic yn rhy hir neu byddi di'n colli allan ar bopeth sydd gan Dduw ar dy gyfer. Yn y pen draw, gelli wneud dy golled yn ffocws ar dy fodolaeth, yn hytrach na lle i oedi ar y daith.
Fi fyddai'r un olaf i ddweud wrthot ti bryd yn union y mae angen i'th alar symud i'r cyfnod claddu. Mae hynny rhyngot ti a Duw.
Felly, gofynna i’th hun a allai Duw fod yn rhoi gwthiad ysgafn i ti i roi'r meicroffon iddo. A yw’n dweud wrthot ti fod tymhorau’n newid, ei bod yn bryd dirwyn yr araith goffa i ben a thrawsnewid i’r dyfodol? Os na, cymera dy amser i alaru.
Ond os felly, bydded i'w ras dy arwain ymlaen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae bywyd yn llawn anawsterau, colledion, siomedigaethau a phoen. Bydd y “Grefft o Oresgyn” yn dy helpu i ddelio â cholled, galar a loes. Mae’n ymwneud â gwrthod caniatáu i’r pethau sy’n edrych fel terfyniadau dy ddigalonni neu dy ddiarddel. Yn hytrach, gad i Dduw eu troi yn ddechreuadau. Pan fydd bywyd yn ddryslyd ac yn anodd, paid â rhoi'r gorau iddi. Edrych i fyny. Waeth pa foment anodd neu golled boenus rwyt ti'n ei wynebu, mae Duw gyda thi.
More