Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Grefft o OresgynSampl

The Art of Overcoming

DYDD 2 O 7

Diwrnod 2: Ffydd yn y Tywyllwch

“Mae bwystfil o dan fy ngwely!”

A yw plentyn erioed wedi dy ddeffro â'r gri ofnus hon? Falle ti oedd y plentyn hwnnw ar un adeg.

Wrth inni dyfu i fyny, mae'r bwystfilod o dan y gwely yn diflannu. Ond mae'r bwystfilod yn ein penyn tyfu hyd yn oed yn gryfach. Yn y pen draw, gallwn fyw mewn ofn parhaus o'r gelynion a allai ymosod arnom a'r drwg a allai ddod i'n rhan.

Dŷn ni i gyd yn wynebu ein siâr o ofnau. Yn onest, mae llawer i'w ofni yn y byd ansicr hwn. Mae gynnon ni i gyd rywbeth sy'n ein cadw ni’n troi a throsi yn y nos.

Beth yw'r ateb, felly?

Cofleidia ffydd yn Nuw sy'n ddigon mawr ac yn ddigon gonest i wneud lle ar gyfer treialon a thrasiedïau, nid dim ond ar gyfer buddugoliaethau. Waeth beth sy’n digwydd - boed fyw neu farw, ennill neu golli, llwyddo neu fethu - Duw sydd wrth y llyw, a gellir ymddiried ynddo (Rhufeiniaid 8:38-39).

Dŷn ni'n mynd i wynebu rhai pethau anodd mewn bywyd. Ni all yr un ohonyn nhw dorri ein perthynas â Duw. Hyd yn oed os daw ein hofnau gwaethaf yn wir, gallwn ddal i ddibynnu ar gariad a phresenoldeb Duw. Onid dyna hanfod ffydd? Ymddiriedaeth debyg i blentyn yng nghariad Duw?

Pan fyddi di'n dysgu byw gyda ffydd yn Nuw, mae marwolaeth a cholled yn colli eu nerth. Mae ffydd yn dy alluogi i wynebu unrhyw fygythiad, unrhyw newyddion drwg, neu unrhyw ofn heb gael dy orlethu. Gad i ffydd ddiffinio dy fywyd, a bydd yn dy arwain trwy'ch profiadau marwolaeth yn ddianaf. Paid â rhoi clod iddo am y buddugoliaethau yn unig - gad iddo dy gario trwy fethiant, siom, a brifo hefyd. Dyna pryd y mae ar ei orau.

Ie, falle y bydd y gwaethaf yn digwydd. Na, falle na fydd dy wyrth yn digwydd yr ochr hon i'r nefoedd. Oes, mae yna rai dyddiau anodd o'n blaenau.

Ond does dim rhaid i ti ofni. Mae ffydd yn agor dy lygaid i'r Duw sy'n dy amgylchynu â breichiau cariad a byddinoedd o amddiffyniad.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

The Art of Overcoming

Mae bywyd yn llawn anawsterau, colledion, siomedigaethau a phoen. Bydd y “Grefft o Oresgyn” yn dy helpu i ddelio â cholled, galar a loes. Mae’n ymwneud â gwrthod caniatáu i’r pethau sy’n edrych fel terfyniadau dy ddigalonni neu dy ddiarddel. Yn hytrach, gad i Dduw eu troi yn ddechreuadau. Pan fydd bywyd yn ddryslyd ac yn anodd, paid â rhoi'r gorau iddi. Edrych i fyny. Waeth pa foment anodd neu golled boenus rwyt ti'n ei wynebu, mae Duw gyda thi.

More

Hoffem ddiolch i Biblica am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.biblica.com/timtimberlake