Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Grefft o OresgynSampl

The Art of Overcoming

DYDD 1 O 7

Diwrnod 1: Dechreuadau a Diweddiadau.

Os wyt ti erioed wedi profi marwolaeth sydyn ffrind neu aelod o'r teulu, rwyt ti'n gwybod pŵer ofnadwy marwolaeth pan mae'n taro. Mae'r un peth yn wir am golli unrhyw beth dŷn ni’n ei werthfawrogi'n sydyn. Mae'n gic mul annisgwyl sy'n ein llorio heb rybudd. Dŷn ni’n teimlo’n ddi-rym, yn anobeithiol, ac wedi ein trechu.

Ond beth os nad yw colled a galar cynddrwg â’r disgwyl?

Po fwyaf y darllenaf y Beibl a’r hiraf y byddaf yn dilyn Iesu, y mwyaf yr wyf wedi gweld y gwirionedd syml hwn ar waith: fel arfer dim ond dechreuadau yw’r hyn dŷn ni’n meddwl yw terfyniadau. Mae'r hyn dŷn ni'n ei feddwl yw colled yn aml yn troi allan yn elw. Mae'r hyn a ddylai fod yn wendid rywsut yn dod yn gryfder. Mae'r hyn a olygir ar gyfer ddrwg yn arwain at dda. Pam? Oherwydd dyna pa mor bwerus a da yw Duw. Mae ganddo ffordd o droi'r peth gwaethaf a allai ddigwydd i'r peth gorau a allai ddigwydd.

Nid yw newid ein persbectif i weld y darlun mawr yn hawdd nac yn ddi-boen.

Dychmyga beth sy'n gorfod mynd trwy ben babi pan fydd yn cael ei eni. Ro’n i’n bresennol ar gyfer genedigaeth fy mab. Wnaeth e ddim mwynhau'r broses o gwbl! Mae'n debyg y byddai wedi dewis aros yn y groth. Ni allai fod wedi dychmygu rhyddid y byd y tu allan.

Yn yr un modd, dŷn ni’n aml yn dal gafael ar y bobl, y lleoedd neu’r breuddwydion dŷn ni’n dechrau eu colli oherwydd ofn yr anhysbys. Mae “marwolaethau bach” yn ein dychryn oherwydd allwn ni ddim darlunio'r hyn sydd o'n blaenau. Fel babi newydd-anedig does gynnon ni mo’r iaith ar ei gyfer hyd yn oed.

Ond yn stori Duw, fel arfer dim ond dechrau cyfle mwy yw diwedd un bennod. Disgrifiodd Iesu ei fywyd ei hun fel hedyn yr oedd angen iddo farw a chael ei gladdu cyn y gallai ddod â bywyd i lawer (Ioan 12:23-25). Mae'r egwyddor yn berthnasol i fathau eraill o farw yn ein bywydau.

Nid marwolaeth yw'r diwedd. Mae'n ddiwedd, ydy, ond nid dyma'r diwedd un. Mae hefyd yn ddechrau, yn gam angenrheidiol cyn y gall yr hyn sy'n newydd ddod i fodolaeth.

Felly, yn lle mynd i banig oherwydd ofn yr anhysbys, cymera anadl ddofn. Dewisa ymddiried yn Nuw. Cerdda drwy'r drws. Os yw breuddwyd sydd weddi chwalu, swydd goll, perthynas sydd wedi torri, neu rywbeth arall wedi dy adael yn sigledig, mater i ti yw prosesu'r farwolaeth honno yn y ffordd gywir - ac yna symud ymlaen i newydd-deb.

Mae Duw eisiau troi dy ddiweddglo yn ddechrau.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The Art of Overcoming

Mae bywyd yn llawn anawsterau, colledion, siomedigaethau a phoen. Bydd y “Grefft o Oresgyn” yn dy helpu i ddelio â cholled, galar a loes. Mae’n ymwneud â gwrthod caniatáu i’r pethau sy’n edrych fel terfyniadau dy ddigalonni neu dy ddiarddel. Yn hytrach, gad i Dduw eu troi yn ddechreuadau. Pan fydd bywyd yn ddryslyd ac yn anodd, paid â rhoi'r gorau iddi. Edrych i fyny. Waeth pa foment anodd neu golled boenus rwyt ti'n ei wynebu, mae Duw gyda thi.

More

Hoffem ddiolch i Biblica am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.biblica.com/timtimberlake