Y Grefft o OresgynSampl
Diwrnod 3: Mae Tristwch yn Dir Sanctaidd.
Bydd unrhyw riant yn dweud wrthyt ei bod yn dorcalonnus gwrando ar floeddiadau dy blentyn.. Mae rhieni wedi'u gwifro i ofalu am eu plant. Mae eu poen yn deffro tosturi, hyd yn oed os mai dim ond gwrthodiad ystyfnig i gau eu llygaid a mynd i gysgu yw eu “poen”.
Yn yr un modd, mae ein poen yn atseinio yng nghalon Duw. Mae bob amser yn gofalu, ac mae bob amser yn agos. Nid yw'n rhyw dasgfeistr sy’n cadw draw yn yr awyr a phoeni dim ond am faint dŷn ni'n llwyddo i’w wneud neu a ydyn ni wedi pechu heddiw.
Mae'n poeni amdanom ni. Mae'n deall yr hyn dŷn ni’n mynd drwyddo. Mae'n rhannu ein hemosiynau.
Mae’r Beibl yn aml yn sôn am sut mae Duw yn “clywed ein cri” neu “yn gweld ein dioddefaint.” Mae'r marwolaethau bychain yr awn ni drwyddyn nhw yn symud calon Duw. Dŷn ni'n anfeidrol werthfawr iddo, felly mae'n rhannu ein poen. Hyd yn oed os yw’n golled gymharol fach yng ngolwg pobl eraill - falle y ces di dy basio drosodd am ddyrchafiad, neu y torrwyd i mewn i dy gar, neu ces di lythyr gwrthod gan gyhoeddwr, neu bu farw anifail anwes y teulu - mae’r profiadau marwolaeth hyn yn bwysig i Dduw.
Cyn i Iesu godi Lasarus oddi wrth y meirw, wnaeth e gyfarfod gyntaf â chwiorydd y dyn marw, Martha a Mair. Roedden nhw’n dorcalonnus, wrth gwrs. Hyd yn oed yn flin. Gelli ei glywed yn eu lleisiau yn Ioan 11. Ar un adeg, pan welodd Iesu alar Mair a'r lleill, cafodd ei lethu gan dosturi a dechreuodd grio.
Wyt ti’n sylweddoli faint mae hynny’n ei ddweud am galon Duw? Roedd Iesu yn gwybod ei fod yn mynd i godi Lasarus oddi wrth y meirw - ac roedd yn dal i grio. Roedd eu poen yn bwysig iddo. Doedd e ddim yn anwybyddu'r golled; wnaeth e ei ddilysu.. Steddodd gyda hwy yn eu dioddefaint, a rhannodd eu dagrau.
Pam byddai ein dagrau o bwys i Dduw?
Mae'n syml. Achos dŷn ni o bwys i Dduw. Ac nid dim ond ein cynhyrchiant, neu ein sancteiddrwydd, neu ein haelioni. Yn ei lygaid, mae dy boen yn werthfawr. Mae dy alar yn sanctaidd. Mae dy golled yn gysegredig.
Felly, pan fydd marwolaeth yn taro, paid bod ar frys i fygu dy alar. Paid amau dy hun a bod yn dawel. Paid anwybyddu’r golled yn enw ffydd neu nerth. Gad i ti dy hun “deimlo pob teimlad” cyhyd ag y bydd ei angen arnat, oherwydd mae eiliadau dy farwolaeth yn werthfawr yng ngolwg yr Arglwydd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae bywyd yn llawn anawsterau, colledion, siomedigaethau a phoen. Bydd y “Grefft o Oresgyn” yn dy helpu i ddelio â cholled, galar a loes. Mae’n ymwneud â gwrthod caniatáu i’r pethau sy’n edrych fel terfyniadau dy ddigalonni neu dy ddiarddel. Yn hytrach, gad i Dduw eu troi yn ddechreuadau. Pan fydd bywyd yn ddryslyd ac yn anodd, paid â rhoi'r gorau iddi. Edrych i fyny. Waeth pa foment anodd neu golled boenus rwyt ti'n ei wynebu, mae Duw gyda thi.
More