Y Dyn ar y Groes Ganol: Cynllun darllen 7 diwrnodSampl
TYWYLLWCH LLWYR
"Erbyn hyn yr oedd hi tua hanner dydd. Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn, a'r haul wedi diffodd. " LUC 23:44-45 (beibl.net)
Ar ôl croeshoelio Iesu, tua hanner dydd, llyncwyd y wlad mewn tywyllwch. Dychmyga pa mor frawychus mae'n rhaid bod hynny! Yn sydyn, roedd pobl yn sicr yn teimlo'n fwy agored i niwed, yn fwy ymylol. Falle fod rhai oedd wedi bod yn bresennol adeg arestio Iesu ac wedi cofio ei fod wedi rhybuddio, “Ond dyma’ch cyfle chi – yr amser pan mae pwerau’r tywyllwch yn rheoli.” (Luc 22:53). Ond mae'n debyg bod y mwyafrif wedi dweud wrth ei gilydd, Sgwn i beth yw pwrpas y tywyllwch hwn? Tybed pam mae hyn yn digwydd?
Mewn un ystyr, dylen nhw fod wedi gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw. Digwyddodd marwolaeth Iesu yn ystod dathliad y Pasg yn Jerwsalem - dathliad a oedd wedi digwydd yn flynyddol ers cannoedd o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn, byddai'r Iddewon yn cofio mai'r pla olaf a anfonodd Duw dros yr Aifft cyn dyfodiad angel marwolaeth a marwolaeth y meibion cyntaf-anedig oedd tywyllwch dros yr holl wlad. Bydden nhw’n cofio mai ar ôl y tywyllwch y daeth marwolaeth: mai ar yr achlysur hwnnw, dim ond y rhai a warchodwyd gan waed oen y Pasg a ddeffrodd yn y bore i gael eu cyntaf-anedig yn dal gyda nhw. Ac yn awr, yma, yn yr Exodus mwyaf a ragwelwyd gan yr un cyntaf hwnnw, y tywyllwch oedd yn rhagflaenu marwolaeth Crist, yr hwn oedd ac sydd yn berffaith Oen y Pasg.
Fel Gwaredwr Pechod - fel yr Oen perffaith, di-fai - yr aeth Iesu i mewn i bresenoldeb y Duw dibechod. Yn fwy na hynny, wnaeth e ddim cario aberth ar gyfer ei hun. Cyn y foment hon mewn hanes, i fynd i mewn i le sanctaidd presenoldeb Duw yn y deml yn Jerwsalem, roedd yn rhaid i'r archoffeiriad wneud aberth dros ei bechod ei hun ac yna aberthu dros bechodau'r rhai yr oedd yn eu cynrychioli. Ond aeth yr Archoffeiriad hwn i mewn i bresenoldeb nefol y Duw sanctaidd yn cario dim. Pam? Am nad oedd angen aberth arno e ei hun, oherwydd yr oedd yn berffaith, yn ddibechod; ac eto Ef ei Hun oedd yr aberth. Iesu oedd yr Oen. Doedd dim byd arall y gallai ei gario a dim byd arall y dylai ei gario. Fel yr eglura Pedr, “Cariodd ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren, ” (1 Pedr 2:24).
Ac felly nid oedd gan dywyllwch barn Duw, y gair olaf. Oherwydd bod Iesu wedi troi’n bechod, gan achosi cynddaredd llawn digofaint Duw, gallwn gael ein trosglwyddo i deyrnas Dduw, “i’w ryfeddol oleuni ef” (1 Pedr 2:9). Does unrhyw beth arall yn y byd i gyd sy’n dangos pa mor wirioneddol yw cariad Duw at bechaduriaid a pha mor real yw ein pechod at Dduw.
Well might the sun in darkness hide
And shut his glories in
When Christ the mighty Maker died
For man the creature’s sin.[1]
- Sut mae Duw yn fy ngalw i feddwl yn wahanol?
- Sut mae Duw yn ad-drefnu serchiadau fy nghalon - yr hyn dw i’n ei garu?
- Beth mae Duw yn fy ngalw i'w wneud wrth fynd o gwmpas fy niwrnod heddiw?
[1] Isaac Watts, "Alas, and Did My Savior Bleed" (1707).
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae bron pawb yn cytuno bod y byd hwn wedi torri. Ond beth os oes ateb? Mae’r cynllun Pasg saith niwrnod hwn yn dechrau gyda phrofiad unigryw’r lleidr ar y groes ac yn ystyried pam mai’r unig ateb gwirioneddol i doriad yw dienyddiad dyn diniwed: Iesu, Mab Duw.
More