Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Dyn ar y Groes Ganol: Cynllun darllen 7 diwrnodSampl

The Man on the Middle Cross: A 7-Day Easter Reading Plan

DYDD 1 O 7

ADDEWID PARADWYS

“Dwedodd,. “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas.” Atebodd yntau, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.” Luc 23:42-43 (beibl.net)

Cafodd Iesu ei groeshoelio rhwng dau droseddwr a gafwyd yn euog—a chlywodd y troseddwyr hynny eiriau Crist, ond eto wnaethon nhw ymateb yn wahanol iawn. Roedd y dyn cyntaf oedd ar farw yn ystyried y groes yn wrthddywediad. Daeth i'r casgliad, oherwydd bod Iesu ar y groes, nad oedd yn Waredwr. Felly dyma fe'n gwawdio'r dyn ar y groes ganol: “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau!” (Luc 23:39). Ond roedd yr ail ddyn yn gweld y groes fel cadarnhad. Roedd yn cydnabod oherwydd bod Iesu ar y groes, mae'n rhaid mai fe oedd y Gwaredwr.

Roedd y troseddwr hwn, a fu unwaith yn ddiegwyddor, wedi gweld a chlywed digon o Iesu yn ei oriau olaf i ddod i'r casgliad ei fod yn ddieuog o unrhyw drosedd. Ac yr oedd yr Ysbryd Glân wedi agor ei lygaid i sylweddoli fod ei sefyllfa yn llawer mwy a gwahanol i'r hyn a feddyliai gynt. Nid yn unig yr oedd yn cael ei gosbi'n gyfiawn, gan dderbyn y condemniad a haeddai ei bechodau, ond byddai ei gosb yn ymestyn i dragwyddoldeb pe na bai ganddo'r maddeuant y soniodd Iesu amdano.

Yn dilyn y sylweddoliad hwn, gwnaeth y dyn condemniedig gais gostyngedig i Iesu am yr hyn y gwyddai nad oedd yn ei haeddu: “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas.” Yn ôl pob tebyg, roedd wedi prosesu’r dystiolaeth, gan ddod i’r casgliad, Os mai’r dyn hwn yw’r Meseia, yna fe yw’r Brenin hir-addawedig. Os fe yw'r Brenin hwnnw, yna mae ganddo deyrnas - teyrnas dragwyddol Dduw. A phan fydd e'n cyrraedd ei deyrnas, falle y bydd yn fy nghofio pan fydd yn cyrraedd yno.

Mae ateb Iesu yn wych: “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.”’ “Nid yn unig addawodd Iesu y byddai'r dyn hwn - hyd yn oed y dyn hwn - yn mynd i'r nefoedd, ond pwysleisiodd hefyd natur uniongyrchol y realiti hwnnw i'r dyn hwn: “ Falle y byddwn yn eu dychmygu yn gorffen eu sgwrs nid yn hongian ar groesau yng Nghalfaria ond yn eistedd yn nheyrnas Dduw.

Gynigodd y troseddwr hwn ddim a gofynnodd i'r Brenin am bopeth. A dwedodd ie. Ni ddylai hyn byth fethu â'n taro a rhoi sicrwydd i ni, oherwydd rwyt ti a minnau yn yr un sefyllfa â'r troseddwr hwnnw. Does gynnon ni ddim i'w ddwyn at Iesu, fel pe bai ein gweithredoedd yn allweddol sy'n agor y ffordd i mewn i'w deyrnas. Y cwbl allwn ei ddwyn ato yw’r hyn oll wnaeth y troseddwr ddwyn ato: ein pechod ni. Ond dyna pam y crogodd Iesu ar y groes: er mwyn inni ddod â'n pechod ato, ac iddo ei gymryd. Dyna pam mae addewid Iesu i’r troseddwr hefyd yn Ei addewid i bob credadun sy’n marw: “Heddiw byddi gyda mi ym mharadwys.” Gad i’r wybodaeth honno fod yn llawenydd i ti ac yn danwydd i ti heddiw. Un diwrnod, byddi dii - hyd yn oed ti - gyda'th Frenin ym mharadwys.

  • Sut mae Duw yn fy ngalw i feddwl yn wahanol?
  • Sut mae Duw yn ad-drefnu serchiadau fy nghalon - yr hyn yr wyf yn ei garu? li>
  • Beth mae Duw yn fy ngalw i wneud wrth i mi fynd o gwmpas fy niwrnod heddiw?

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The Man on the Middle Cross: A 7-Day Easter Reading Plan

Mae bron pawb yn cytuno bod y byd hwn wedi torri. Ond beth os oes ateb? Mae’r cynllun Pasg saith niwrnod hwn yn dechrau gyda phrofiad unigryw’r lleidr ar y groes ac yn ystyried pam mai’r unig ateb gwirioneddol i doriad yw dienyddiad dyn diniwed: Iesu, Mab Duw.

More

Daw deunydd defosiynol o ‘Truth For Life,’ defosiwn dyddiol gan Alistair Begg, a gyhoeddir gan The Good Book Company, thegoodbook.com. Defnyddir gan Truth For Life gyda chaniatâd. Hawlfraint (C) 2022, The Good Book Company. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://tfl.org/365 ​