Y Dyn ar y Groes Ganol: Cynllun darllen 7 diwrnodSampl
ALLAN O’R CYSGODION
“Roedd yna ddyn o’r enw Joseff oedd yn dod o dref Arimathea yn Jwdea. Roedd yn ddyn da a gonest, ac yn aelod o’r Sanhedrin Iddewig, ond doedd e ddim wedi cytuno â’r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu. Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu (beibl.net)
Doedd claddedigaeth Iesu ddim yn ganlyniad pendant o bell ffordd am ddau brif reswm. Yn gyntaf, doedd croeshoelio troseddwyr, yn aml, ddim yn ddiwedd ar eu darostyngiad; yn aml roeddwn nhw’n cael eu gwahardd rhag anrhydedd claddedigaeth briodol. Yn ail, roedd rhyddhau corff yn dibynnu’n llwyr ar berthynas neu ffrind yn gofyn am ganiatâd i gladdu’r corff - a phwy oedd ar ôl i gladdu Iesu? Roedd y disgyblion wedi ffoi, y dyrfa wedi gwasgaru, a'r gwragedd ddim yn barod i wneud y fath gais.
Roedd Joseff yn un o ddilynwyr Iesu, ond yn cadw’n ddistaw am y peth am fod ganddo ofn yr arweinwyr Iddewig” (Ioan 19:38).
Roedd ofn wedi tawelu Joseff o Arimathea hyd at y pwynt hwn. Roedd bywyd a dysgeidiaeth Iesu wedi ei ddenu a’i ddwyn i ffydd achubol, ond arhosodd ei ffydd yn ddirgel. Aeth o gwmpas ei fusnes ysbrydol yn ddirgel - hynny yw, nes i'r groes ei ddwyn allan i'r awyr agored. Ac felly, ar ôl treulio gormod o amser yn y cysgodion, aeth Joseff “gofynnodd Joseff o Arimathea ganiatâd gan Pilat i gymryd corff Iesu i lawr.”
Mae’r hanes yn yr Efengyl yn disgrifio’r modd y gwnaeth Joseff drin corff Iesu yn ofalus, wrth iddo “ei dynnu i lawr” oddi ar y groes, a’i “roi i orwedd mewn bedd newydd oedd wedi’i naddu yn y graig - doedd neb erioed wedi’i gladdu yno o’r blaen.” (Luc 23:53). Darllenwn yn yr un modd am Nicodemus, “y dyn oedd wedi mynd i weld Iesu ganol nos. Daeth Nicodemus a tua 34 cilogram o fyrr ac aloes,” i gynorthwyo Joseff yn y broses gladdu (Ioan 19:39).
Mae unig ymddangosiad a byr Joseff, hefyd yn ein hatgoffa’n glir o ragluniaeth Duw ar waith bob amser ac ym mhob man. Paratôdd Duw Joseff ar gyfer yr union foment hon. Roedd Joseff yn ofnus ac yn gyfrinachol, ond defnyddiodd Duw e er daioni, yn union fel y mae e’n ein defnyddio ni. Mae'n debyg bod Joseff wedi colli llawer o gyfleoedd i sefyll dros ei frenin; mae'n debyg ei fod wedi cadw'n dawel gymaint o weithiau pan ddylai fod wedi siarad allan. Ac eto'r dyn hwn wnaeth Duw sicrhau y byddai yn bresennol ar y dydd hwn, i'r gorchwyl pwysig hwn. A chododd Joseff ato, gan beryglu popeth - ei statws, ei enw da, a'i ddiogelwch - i anrhydeddu Iesu trwy sicrhau bod ganddo gladdedigaeth iawn.
Falle dy fod yn uniaethu â Joseff: rwyt ti wedi bod yn byw fel disgybl cudd, yn credu ond yn ofni gadael i unrhyw un yn dy gymdogaeth neu weithle wybod am dy ffydd. Os felly, yna heddiw, gofynna i'r Arglwydd Iesu Grist faddau dy ofn a'th alluogi, fel Joseff, yng ngoleuni'r groes, i sefyll yn eofn drosto yng nghariad Crist. Falle dy fod wedi colli eiliadau yn y gorffennol pan ges di gyfle i sefyll dros dy frenin, ond mae Duw bob amser yn barod i roi'r dasg i ti o anrhydeddu ei Fab, ac nid oes angen iti golli'r cyfle nesaf.
- Sut mae Duw yn fy ngalw i feddwl yn wahanol?
- Sut mae Duw yn ad-drefnu serchiadau fy nghalon - yr hyn dw i’n ei garu?
- Beth mae Duw yn fy ngalw i wneud wrth i mi fynd o gwmpas fy niwrnod heddiw?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae bron pawb yn cytuno bod y byd hwn wedi torri. Ond beth os oes ateb? Mae’r cynllun Pasg saith niwrnod hwn yn dechrau gyda phrofiad unigryw’r lleidr ar y groes ac yn ystyried pam mai’r unig ateb gwirioneddol i doriad yw dienyddiad dyn diniwed: Iesu, Mab Duw.
More