Y Dyn ar y Groes Ganol: Cynllun darllen 7 diwrnodSampl
ROEDD Y GARREG WEDI’I RHOLIO I FFWRDD
LUC 24:5-6 (beibl.net)
Pan dŷn ni'n ystyried Iesu fel Meseia, mae'r rhan fwyaf ohonom yn meddwl ar unwaith mewn ffordd bersonol: Iesu yw fy Meseia. Mae'n maddau fy mhechodau. Mae'n byw ynof i. Mae pob un ohonyn nhw, wrth gwrs, yn wir. Ond roedd disgwyliadau Iddewig y ganrif 1af ynglŷn â Meseia Iesu yn llawer ehangach na hynny. Pe baem wedi siarad ag Iddew o'r ganrif 1af am ei ddisgwyliadau Meseianaidd, byddem wedi darganfod gobeithion a oedd, ar un ystyr, yn llawer mwy mawreddog.
Roedd yr Iddewon yn rhagweld y byddai eu Meseia hir-ddisgwyliedig yn dod i drechu’r paganiaid a ddaliodd ddylanwad arnyn nhw, ailadeiladu’r deml, a sefydlu rheolaeth gyfiawn Duw ar y ddaear. Gobaith cenedlaetholgar oedd eu gobaith hwy y byddai'r Meseia yn dod i gyfiawnhau cenedl Israel. Roedd dyfodiad Iesu, gyda’r gwyrthiau a gyflawnodd, y straeon a ddwedodd, a’r proffwydoliaethau a gyflawnodd, yn creu cresendo mawr o ddisgwyliadau ymhlith ei ddilynwyr. Ond dim ond pan ddechreuon nhw feddwl mai e mewn gwirionedd fyddai'r un i adbrynu pobl Israel yn wleidyddol, fe welon nhw eu holl obeithion Meseianaidd yn hongian ar grocbren Rhufeinig ar Galfaria. A phan ddwedodd Iesu, “Mae'r cwbl wedi'i wneud.” (Ioan 19:30), mae’n rhaid bod llawer ohonyn nhw wedi cytuno.
Sut, felly, y parhaodd y grŵp hwn o gredinwyr, yr oedd eu gobeithion Meseianaidd wedi’u claddu mewn bedd Palesteinaidd, nid yn unig yn parhau i gredu mai Iesu oedd y Meseia ond yn sefyll yn y strydoedd ger y man lle cafodd ei ddienyddio a gwneud datganiad heb gywilydd mai e oedd y Meseia? Mae'r ateb sy'n dod yn adleisio trwy dudalennau'r Testament Newydd i'w gael yn atgyfodiad corfforol Iesu. Fe wnaeth y cyhoeddiad gan yr angel i’r merched oedd wedi dod â sbeisys i eneinio corff ysgogi ailasesiad radical o’r hyn yr oedd y credinwyr wedi’i weld ar y dydd Gwener a newid llwyr yn eu golwg ar eu bywydau a’u dyfodol. Pan ail-ymddangosodd y Meseia yn eu plith, mor fyw ag erioed, trawsnewidiwyd y disgyblion trist, galarus, gorchfygedig, a drylliedig hyn yn dystion eofn, llawen. Roedden nhw n awr yn dwyn tystiolaeth i wirionedd Crist wedi ei atgyfodi gyda chorff gellid ei weld, ei drin, a'i gyffwrdd, ac eto yn meddu ar alluoedd i wneud yr hyn na wnaeth ei gorff cyn-atgyfodedig. Roedd ei waith o iachawdwriaeth wedi’i orffen, ond yn sicr nid oedd ei fywyd a'i deyrnasiad!
Dim ond wrth i’r disgyblion gydnabod ei bresenoldeb atgyfodedig y gwnaeth Meseiandod Crist synnwyr o’r diwedd. Yn wir, yr hyn wnaeth y credinwyr Iddewig cynnar pan wnaethon nhw ddarganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi'i rholio i ffwrdd” (Luc 24:2) a gweld “pan ddaeth Iesu a sefyll yn y canol.” (adn 36) oedd bod gobaith tragwyddol, llawenydd, a grym yn tanio o fewn eu calonnau. Ac mae'r rhain yn parhau i fod ar gael i bawb sy'n ymddiried yn Iesu, y Meseia atgyfodedig. Mae'r atgyfodiad, a dim ond yr atgyfodiad, yn newid tristwch, galar, a threchu, yn obaith, llawenydd, a grym. Yr atgyfodiad, a dim ond yr atgyfodiad, sy'n datgan y bydd ein Meseia yn trechu ei elynion, yn adfer ei bobl, ac yn llywodraethu o fôr i fôr. Bydd atgyfodiad Iesu yn newid popeth am y ffordd rwyt ti'n mynd o gwmpas dy ddiwrnod heddiw.
- Sut mae Duw yn fy ngalw i feddwl yn wahanol?
- Sut mae Duw yn ad-drefnu serchiadau fy nghalon - yr hyn yr wyf yn ei garu?
- Beth mae Duw yn fy ngalw i'w wneud wrth i mi fynd o gwmpas fy niwrnod heddiw?
Fe wnaethon ni addasu'r Cynllun hwn o adnodd arall. Dysgu Mwy am Truth For Life ac Alistair Begg.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae bron pawb yn cytuno bod y byd hwn wedi torri. Ond beth os oes ateb? Mae’r cynllun Pasg saith niwrnod hwn yn dechrau gyda phrofiad unigryw’r lleidr ar y groes ac yn ystyried pam mai’r unig ateb gwirioneddol i doriad yw dienyddiad dyn diniwed: Iesu, Mab Duw.
More