Y Dyn ar y Groes Ganol: Cynllun darllen 7 diwrnodSampl
CYMERODD EI ANADL OLAF
“A dyma Iesu'n gweiddi'n uchel,’Dad, dw i'n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,’ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw. LUC 23:46 (beibl.net)
Mae symlrwydd y geiriau hyn yn ein cyfeirio at wirioneddau sy'n gorwedd yn rhy ddwfn i ddagrau.
Mae Luc, gyda’i lygad am fanylion, yn rhoi “adroddiad trefnus” i ni o groeshoeliad Iesu- hanes sydd, mae’n esbonio ar ddechrau ei Efengyl, yn ffrwyth ymchwiliad gofalus ac wedi’i sgwennu fel bod gan ei ddarllenwyr “...sicrwydd ynghylch y pethau a ddysgwyd...” (Luc 1:3-4). Nid yw'n trio ysgogi ymateb drwy’r hyn mae e’n ei sgwennu. Yn lle hynny, mae'n sgwennu fel y gallwn ddeall gwirionedd. Ac felly mae anadl marw Iesu yn cael ei adrodd i ni mewn ymadrodd syml: “stopiodd anadlu.”
Yr hyn y mae Luc eisiau inni aros arno yw rheolaeth Iesu dros ei anadl olaf. Dewisodd roi ei ysbryd i ddwylo cariadus ei Dad. Gwyddai fod ei waith e wedi ei wneud. Talwyd am bechod, rhwygwyd y llen, a gallai ei bobl ddod i bresenoldeb ei Dad yn dragwyddol. Ynghyd â phopeth a ddwedodd Iesu cyn ei groeshoelio, mae ei eiriau olaf yn gwrthbrofi’r syniad mai dim ond marwolaeth dioddefwr diymadferth wedi’i lethu gan amgylchiadau creulon oedd ei farwolaeth. Roedd wedi dweud wrth ei ddisgyblion fisoedd ynghynt ei fod yn mynd i fyny i Jerwsalem, “Mae'n rhaid i mi, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy... Bydda i'n cael fy lladd,” (Luc 9:22). Dywed Ioan wrthym ei fod wedi egluro iddyn nhw, “am fy mod yn mynd i farw'n wirfoddol, er mwyn dod yn ôl yn fyw wedyn. 18 Does neb yn cymryd fy mywyd oddi arna i; fi fy hun sy'n dewis rhoi fy mywyd yn wirfoddol. Mae gen i'r gallu i'w roi a'r gallu i'w gymryd yn ôl eto.” (Ioan 10:17-18).
Aeth Iesu at y groes nid yn ddiymadferth ond yn ewyllysgar. Yn unol â bwriad y Tad, dewisodd yr union foment y byddai'n rhoi ei einioes dros ei ddefaid (Ioan 10:11). Yma, felly, gwelwn Awdur bywyd o'i wirfodd yn cymryd ei anadl olaf ac yn ein hatgoffa o'i awdurdod llwyr yn ogystal â'i gariad dihysbydd. “Anadlodd ei anadl olaf” er mwyn i ti allu anadlu'r aer ffres, puredig a oedd ar gael iti'r eiliad y cefais dy eni o’r newydd. “Anadlodd ei anadl olaf” fel y byddi di, un diwrnod, yn sefyll mewn creadigaeth wedi'i hadfer ac yn anadlu aer i ysgyfaint na fydd byth yn pydru nac yn diflannu. Fe wnaeth yr hwn sy'n sofran dros yr awyr rwyt ti'n ei anadlu, yn sofran anadlu ei anadl olaf. Nid yw'n deilwng o ddim llai na'th fawl a'th addoliad di.
- Sut mae Duw yn fy ngalw i feddwl yn wahanol?
- Sut mae Duw yn ad-drefnu serchiadau fy nghalon - yr hyn yr wyf yn ei garu?
- Beth mae Duw yn fy ngalw i wneud wrth i mi fynd o gwmpas fy niwrnod heddiw?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae bron pawb yn cytuno bod y byd hwn wedi torri. Ond beth os oes ateb? Mae’r cynllun Pasg saith niwrnod hwn yn dechrau gyda phrofiad unigryw’r lleidr ar y groes ac yn ystyried pam mai’r unig ateb gwirioneddol i doriad yw dienyddiad dyn diniwed: Iesu, Mab Duw.
More