Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Beibl I BlantSampl

Beibl I Blant

DYDD 6 O 8

Roedd gwraig yn sefyll ar ochr y bryn swnllyd, a’i llygaid trist yn edrych ar olygfa ofnadwy. Roedd ei Mab yn marw. Enw’r fam oedd Mair, ac roedd hi’n sefyll yn agos at le roedd Iesu wedi ei hoelio i groes.

Sut oedd hyn wedi digwydd? Sut oedd hi’n bosib i fywyd hardd Iesu ddod i ben mewn ffordd mor ofnadwy? Sut allai Duw adael i’w Fab gael ei hoelio i groes a marw yno? Oedd Iesu wedi gwneud camgymeriad? Oedd Duw wedi methu?

Na! Doedd Duw ddim wedi methu. Doedd Iesu ddim wedi gwneud camgymeriad. Roedd Iesu’n gwybod o’r dechrau fod dynion drwg yn mynd i’w ladd. Hyd yn oed pan oedd Iesu’n fabi, roedd hen ddyn o’r enw Simeon wedi dweud wrth Mair bod amser trist o’i blaen.

Ychydig ddyddiau cyn i Iesu gael ei ladd, daeth dynes ato i dywallt persawr ar ei draed. “Mae hi’n gwastraffu arian”, cwynodd y disgyblion. “Mae hi wedi gwneud rhywbeth da,” meddai Iesu. “Mae hi wedi gwneud pethau’n barod ar gyfer fy nghladdu.” Dyna eiriau rhyfedd!

Ar ôl hyn, cytunodd Jwdas, un o ddeuddeg disgybl Iesu, i fradychu Iesu i’r prif offeiriaid am 30 darn o arian.

Amser gwledd Bara Croyw yr Iddewon, cafodd Iesu ei bryd bwyd olaf gyda’i ddisgyblion. Dywedodd bethau rhyfeddol wrthyn nhw am Dduw, a’i addewidion i’r rhai sy’n ei garu. Yna rhoddodd Iesu fara a gwin iddyn nhw i’w rannu. Roedd y pethau hyn i’w hatgoffa nhw fod Iesu’n rhoi ei gorff a’i waed er mwyn i bobl gael maddeuant am bopeth drwg yn eu bywyd.

Yna dywedodd Iesu wrth ei ffrindiau fod rhywun yn mynd i’w fradychu ac y bydden nhw’n rhedeg i ffwrdd. “Wna i ddim rhedeg i ffwrdd”, mynnodd Pedr. “Cyn i’r ceiliog ganu, fe fyddi di wedi dweud dair gwaith bod ti ddim yn fy nabod i,” meddai Iesu.

Yn hwyrach y noson honno, aeth Iesu i weddïo yng Ngardd Gethsemane. Aeth y disgyblion oedd gydag e i gysgu. “Dad,” gweddïodd Iesu, “…gad i'r cwpan hwn fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”

Yn sydyn, dyma dyrfa yn cyrraedd yr ardd, gyda Jwdas ar y blaen. Wnaeth Iesu ddim amddiffyn ei hun, ond torrodd Pedr glust person i ffwrdd. Yn dawel, cyffyrddodd Iesu â’r dyn a’i wella. Roedd Iesu’n gwybod fod yr arestio yn rhan o gynllun Duw.

Dyma’r dyrfa yn cymryd Iesu i dŷ’r prif offeiriad. Yno, dywedodd arweinwyr yr Iddewon fod yn rhaid i Iesu farw. Roedd Pedr yn sefyll wrth le tân y gweision, yn gwylio.

Edrychodd pobl ar Pedr a dweud tair gwaith, “Roeddet ti gyda Iesu!” Tair gwaith dywedodd Pedr fod e ddim yn nabod Iesu. Fe wnaeth e hyd yn oed regi a melltithio.

A’r foment honno, dyma geiliog yn canu. Roedd yn debyg i lais Duw i Pedr. Cofiodd beth oedd Iesu wedi ei ddweud. Dechreuodd feichio crio.

Roedd Jwdas yn edifar hefyd. Roedd e’n gwybod fod Iesu heb wneud drwg. Aeth i roi’r arian yn ôl i’r offeiriad, ond doedden nhw ddim yn barod i’w gymryd.

Taflodd Jwdas yr arian ar lawr, aeth allan – a chrogi ei hun.

Dyma nhw’n dod ag Iesu o flaen Peilat, y llywodraethwr Rhufeinig. Dywedodd Peilat, “Dyw’r dyn yma ddim wedi gwneud unrhyw beth o’i le.” Ond roedd y dyrfa’n gweiddi, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!”

Yn y diwedd, dyma Peilat yn cytuno ac yn dweud bod yn rhaid i Iesu farw ar groes. Fe wnaeth y milwyr bwnio Iesu, poeri yn ei wyneb, ei chwipio, a gwneud coron o ddrain miniog a’i gwasgu ar ei ben. Yna dyma nhw’n hoelio Iesu i groes bren i’w ladd.

Roedd Iesu yn gwybod o’r dechrau y byddai’n marw fel hyn. Roedd hefyd yn gwybod fod ei farw yn mynd i olygu maddeuant i bawb fyddai’n ei drystio. Cafodd dau leidr eu rhoi ar groesau wrth ymyl Iesu. Fe wnaeth un ohonyn nhw gredu yn Iesu – a mynd i’r Nefoedd. Ond nid y llall!

Ar ôl dioddef am oriau, dywedodd Iesu, “Mae’r cwbl wedi ei wneud,” a marw. Roedd ei waith drosodd. Dyma ei ffrindiau yn ei gladdu mewn bedd preifat.

Fe wnaeth y milwyr Rhufeinig selio a gardio’r bedd. Doedd neb yn gallu mynd i mewn – nac allan.

Petai’r stori yn gorffen yma, byddai’n stori drist iawn. Ond fe wnaeth Duw rywbeth rhyfeddol. Daeth Iesu yn ôl yn fyw!

Yn gynnar yn y bore ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos, fe welodd rhai o ddisgyblion Iesu fod y garreg wedi ei symud oddi wrth y bedd. Fe wnaethon nhw edrych tu mewn i’r bedd – doedd Iesu ddim yno!

Arhosodd un o’r merched wrth y bedd, yn crio. Daeth Iesu ati! Rhedodd i ddweud wrth y disgyblion eraill. “MAE IESU’N FYW! MAE IESU WEDI CODI O’R BEDD!” meddai hi yn llawen.

Yn fuan wedyn, daeth Iesu at y disgyblion a dangos ei ddwylo a marc yr hoelion arnyn nhw. Roedd yn wir! ROEDD IESU YN FYW ETO! Maddeuodd i Pedr am ddweud ei fod e ddim yn ei adnabod. Yna aeth yn ôl i’r nefoedd. Roedd e wedi dod o’r nefoedd y Nadolig cyntaf hwnnw.

Y Diwedd

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Beibl I Blant

Sut y dechreuodd i gyd? O ble daethom ni? Pam mae cymaint o dristwch yn y byd? A oes unrhyw obaith? Oes bywyd ar ôl marwolaeth? Dod o hyd i'r atebion wrth i chi ddarllen hanes cywir y byd hwn.

More

Hoffem ddiolch i Bible for Children, Inc. am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://bibleforchildren.org/languages/welsh/stories.php