Beibl I BlantSampl
Roedd Noa yn addoli Duw. Roedd pawb arall yn casáu Duw ac yn anufudd iddo. Un diwrnod dyma Duw yn dychryn Noa wrth ddweud, “Rydw i’n mynd i ddinistrio’r byd drwg hwn. Dim ond dy deulu di fydd yn cael eu hachub.”
Rhybuddiodd Duw Noa fod llifogydd mawr yn mynd i foddi’r ddaear i gyd.
“Dw i am i ti adeiladu arch (cwch mawr) wedi ei gwneud o goed, yn ddigon mawr i dy deulu a llawer o anifeiliaid,” meddai wrth Noa. Rhoddodd gyfarwyddiadau manwl i Noa. Dechreuodd Noa ar y gwaith!
Mae’n siwr fod pobl wedi gwneud hwyl am ben Noa pan oedd yn egluro pam ei fod yn gwneud arch. Daliodd Noa ati i adeiladu. Daliodd ati hefyd i ddweud wrth bobl am Dduw. Doedd neb am wrando.
Roedd gan Noa ffydd. Er fod e erioed wedi gweld glaw o’r blaen, roedd yn credu geiriau Duw. Cyn hir roedd yr arch yn barod i’w llwytho â chyflenwadau.
Yna daeth yr anifeiliaid – saith pâr o rai mathau, dau o fathau eraill. Daeth adar mawr a man, creaduriaid pitw bach a rhai tal at yr arch.
Efallai fod pobl wedi gwneud sbort ar ben Noa wrth iddo lwytho’r anifeiliaid.
Wnaethon nhw ddim stopio gwneud pethau drwg. Wnaethon nhw ddim gofyn am gael mynd ar yr arch.
O’r diwedd, roedd yr holl anifeiliaid a’r adar yn yr arch. “Dewch i mewn i’r arch,” meddai Duw wrth Noa, “ti a’r teulu.” Aeth Noa, ei wraig, ei dri mab a’u gwragedd i mewn i’r arch. Yna caeodd Duw y drws!
Yna daeth y glaw. Dyma hi’n arllwys y glaw am bedwar deg diwrnod a nos.
Llifodd y dŵr i’r trefi a’r pentrefi. Ar ôl i’r glaw stopio, roedd hyd yn oed y mynyddoedd o dan ddŵr. Roedd popeth oedd angen anadlu aer wedi marw.
Wrth i’r dŵr godi, fe wnaeth yr arch arnofio. Efallai bod hi’n dywyll y tu mewn i’r arch, ac yn arw, ac yn frawychus. Ond fe wnaeth yr arch gadw Noa yn ddiogel.
Ar ôl pum mis o lifogydd, anfonodd Duw wynt i sychu’r ddaear. Fesul tipyn daeth yr arch i orffwys ar ben mynydd Ararat.
Arhosodd Noa y tu mewn i’r arch am bedwar deg diwrnod arall wrth i’r dŵr fynd i lawr.
Anfonodd Noa gigfran a cholomen allan o’r arch. Daeth y golomen yn ôl at Noa achos bod hi’n methu dod o hyd i ddarn sych o dir i lanio arno.
Wythnos yn ddiweddarach, rhoddodd Noa gynnig arall arni. Daeth y golomen yn ôl gyda deilen ifanc coeden olewydd yn ei phig. A’r wythnos wedi hynny gwyddai Noa fod y ddaear yn sych achos ddaeth y golomen ddim yn ôl.
Dywedodd Duw wrth Noa bod hi’n amser iddo adael yr arch. Gweithiodd Noa a’i deulu gyda’i gilydd i ddadlwytho’r anifeiliaid.
Mae’n siwr fod Noa yn ddiolchgar iawn! Adeiladodd allor ac addoli Duw oedd wedi achub ef a’i deulu rhag y dilyw ofnadwy.
Rhoddodd Duw addewid gwych i Noa. Doedd e byth yn mynd i anfon dilyw arall i gosbi drygioni pobl. Ac fe roddodd e arwydd i atgoffa pobl o’r addewid – enfys.
Fe wnaeth Noa a’i deulu gychwyn o’r newydd ar ôl y dilyw. Mewn amser, roedd ei ddisgynyddion yn byw ym mhob rhan o’r byd. Mae holl genhedloedd y byd wedi dod o deulu Noa.
Y Diwedd
Am y Cynllun hwn
Sut y dechreuodd i gyd? O ble daethom ni? Pam mae cymaint o dristwch yn y byd? A oes unrhyw obaith? Oes bywyd ar ôl marwolaeth? Dod o hyd i'r atebion wrth i chi ddarllen hanes cywir y byd hwn.
More
Hoffem ddiolch i Bible for Children, Inc. am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://bibleforchildren.org/languages/welsh/stories.php