Beibl I BlantSampl
Pan oedd Iesu’n byw ar y ddaear, siaradodd am y Nefoedd gyda’i ddisgyblion. “Tŷ fy Nhad” oedd ei enw arno, a dywedodd fod digon o le yno. Mae’r Nefoedd yn fwy ac yn fwy hardd nag unrhyw gartref ar y ddaear.
Dywedodd Iesu, “Dw i'n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi. Wedyn dw i'n mynd i ddod yn ôl, a bydda i'n mynd â chi yno gyda mi, a chewch chi aros yno gyda mi.”
Aeth Iesu i’r Nefoedd, ar ôl iddo ddod nôl yn fyw. Tra roedd ei ddisgyblion yn edrych arno, cafodd Iesu ei godi i’r awyr, nes bod cwmwl yn ei guddio.
Ers hynny, mae Cristnogion wedi cofio am addewid Iesu ei fod yn mynd i ddod yn ôl i’w cymryd i fod gydag e. Dywedodd Iesu y byddai’n dod yn ôl yn sydyn, pan oedd neb yn ei ddisgwyl. Ond beth am Gristnogion sy’n marw cyn iddo ddod nôl? Mae’r Beibl yn dweud eu bod nhw’n mynd yn syth at Iesu. Mae gadael ein corff yn golygu bod yng nghwmni Iesu.
Mae llyfr y Datguddiad, llyfr olaf y Beibl, yn dweud pa mor ffantastig ydy’r Nefoedd. Y peth mwyaf ffantastig ydy mai cartref Duw ydy’r Nefoedd. Mae Duw ym mhob man, ond mae ei orsedd yn y Nefoedd.
Mae angylion a bodau nefolaidd eraill yn addoli Duw yn y Nefoedd. Dyna mae holl bobl Dduw sydd wedi marw ac wedi mynd i’r Nefoedd yn ei wneud hefyd. Maen nhw’n canu caneuon arbennig yn moli Duw.
Dyma rai o eiriau un gân sy’n cael ei chanu: “RWYT TI'N DEILWNG … AM DY FOD TI WEDI CAEL DY LADD YN ABERTH, AC WEDI PRYNU POBL I DDUW Â'TH WAED —POBL O BOB LLWYTH AC IAITH, HIL A CHENEDL.” (Datguddiad 5:9)
Mae tudalennau olaf y Beibl yn disgrifio’r Nefoedd fel “Y Jerwsalem Newydd”. Mae’n le mawr iawn, iawn gyda wal uchel o’i chwmpas. Mae’r wal wedi ei wneud o garreg siasper, ac yn glir fel grisial.
Mae sylfeini’r wal wedi eu gorchuddio gyda gemau a cherrig gwerthfawr, yn disgleirio gyda lliwiau hyfryd. Mae pob un o gatiau’r ddinas wedi eu gwneud allan o un perl unigol anferth.
Dyw’r gatiau perl yna byth ar gau. Beth am fynd i mewn i gael golwg … WAW Mae’r Nefoedd hyd yn oed yn fwy prydferth y tu mewn. Mae’r ddinas wedi ei gwneud o aur pur, fel gwydr clir. Aur ydy’r stryd hyd yn oed.
Mae afon glir, brydferth, afon o ddŵr bywiol, yn llifo o orsedd Duw. Ar ddwy lan yr afon mae coeden y bywyd, y goeden oedd yng ngardd Eden ar y dechrau. Mae’n rhoi deuddeg math o wahanol ffrwyth, math gwahanol bob mis. Ac mae dail coeden y bywyd yn iachau’r cenhedloedd.
Does dim angen haul na lleuad i oleuo’r Nefoedd. Mae golau Duw yn ei llenwi. Does dim fath beth â nos yno.
Mae hyd yn oed yr anifeiliaid yn wahanol yn y Nefoedd. Maen nhw’n ddof ac yn gyfeillgar. Mae bleiddiaid ac ŵyn bach yn bwyta gwair gyda’i gilydd. Mae hyd yn oed llewod grymus yn bwyta gwellt fel ychen. Mae’r Arglwydd yn dweud, “Fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim ar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi.”
Wrth i ni edrych o gwmpas, rydyn ni’n sylwi fod yna bethau ar goll yn y Nefoedd. Allwn ni ddim clywed neb yn siarad yn flin. Does neb yn ymladd nac yn hunanol. Does dim clo ar ddrysau, achos does dim lladron yn y Nefoedd. Does neb yn dweud celwydd, yn lladd, yn dewino na gwneud pethau drwg eraill. Does dim pechod o gwbl yn y Nefoedd.
Does dim mwy o ddagrau yn y Nefoedd gyda Duw. Weithiau mae pobl Dduw yn crio oherwydd y pethau trist sy’n digwydd iddyn nhw mewn bywyd. Yn y Nefoedd bydd Duw yn sychu’r holl ddagrau.
Does neb yn marw yn y Nefoedd chwaith. Bydd pobl Dduw yn byw am byth gyda’r Arglwydd. Bydd dim mwy o dristwch, dim mwy o grio, dim mwy o boen. Dim salwch, dim gwahanu, dim angladdau. Bydd pawb yn hapus am byth gyda Duw yn y Nefoedd.
Ac yn well na dim, mae’r Nefoedd ar gyfer bechgyn a merched (ac oedolion hefyd) sydd wedi credu yn Iesu Grist fel Achubydd, ac sydd wedi ufuddhau iddo fel Arglwydd. Mae llyfr yn y Nefoedd o’r enw Llyfr y Bywyd. Mae’n llawn o enwau pobl. Wyddoch chi enwau pwy sydd ynddo? Pawb sydd wedi trystio Iesu. Ydy dy enw di yno?
Gwahoddiad gwych ydy geiriau olaf y Beibl am y Nefoedd. “Mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, ‘Tyrd!’ Gadewch i bawb sy'n clywed ateb, ‘Tyrd!’ Gadewch i'r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd.”
Y Diwedd
Am y Cynllun hwn
Sut y dechreuodd i gyd? O ble daethom ni? Pam mae cymaint o dristwch yn y byd? A oes unrhyw obaith? Oes bywyd ar ôl marwolaeth? Dod o hyd i'r atebion wrth i chi ddarllen hanes cywir y byd hwn.
More
Hoffem ddiolch i Bible for Children, Inc. am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://bibleforchildren.org/languages/welsh/stories.php