Beibl I BlantSampl
Fe wnaeth Iesu lawer o wyrthiau. Roedd y gwyrthiau yn dangos fod Iesu’n fab Duw. Digwyddodd y wyrth gyntaf mewn gwledd briodas. Roedd yno broblem. Doedd dim digon o win ar gyfer pawb.
Cafodd Iesu wybod am y broblem gan Mair, ei fam. Fe ddywedodd hi wrth y gweision am wneud beth bynnag fyddai Iesu’n dweud wrthyn nhw.
“Llanwch y potiau hyn gyda dŵr,” dywedodd Iesu. Tybed wnaethon nhw holi “Dŵr?” Ie – roedd Iesu wedi gofyn am ddŵr.
Yna dywedodd Iesu wrth un o’r gweision am roi diod allan o un o’r potiau i’r dyn oedd yn trefnu’r wledd iddo gael ei flasu. Roedd y dŵr wedi troi’n win! Gwin da! Y gwin gorau!
Roedd y gweision yn rhyfeddu. Roedd Iesu wedi troi dŵr yn win. Dim ond Duw oedd yn gallu gwneud gwyrth fel yna.
Fe wnaeth Iesu wyrthiau eraill hefyd. Un noson, aeth gyda’i ddisgyblion i gartref Pedr. Roedd mam yng nghyfraith Pedr yn sâl iawn gyda gwres uchel.
Cyffyrddodd Iesu â llaw y wraig sâl. O fewn eiliadau roedd hi wedi gwella. Cododd o’i gwely a pharatoi pryd o fwyd i Iesu a’r disgyblion.
Roedd hi’n ymddangos fel petai’r ddinas gyfan wedi dod at y drws y noson honno. Daeth pobl sâl yno – pobl oedd yn methu gweld, clywed, siarad, cerdded. Daeth hyd yn oed pobl hefo cythreuliaid y tu mewn iddyn nhw at Iesu. Oedd e’n gallu helpu yr holl bobl yma?
Oedd! Roedd Iesu, mab Duw yn gallu helpu, a dyna wnaeth e. Cafodd pawb eu gwella. Roedd pobl oedd wedi gorfod symud ar faglau nawr yn gallu cerdded a rhedeg a neidio.
Daeth pobl eraill hefyd – rhai oedd wedi dechrau edrych yn hyll oherwydd salwch y gwahanglwyf.
Cawson nhw eu gwella gan Iesu.
Dyma ddynion a merched oedd yn cael eu poeni gan gythreuliaid yn dod at Iesu. Gorchmynnodd i’r cythreuliaid adael llonnydd iddyn nhw. Pan ufuddhaodd y cythreuliaid, cafodd y bobl drist hyn dangnefedd a llawenydd.
Ceisiodd pedwar dyn helpu eu ffrind i fynd at Iesu, ond roedd yna ormod o dyrfa. Beth allen nhw ei wneud?
Fe wnaethon nhw gario’r dyn sâl i ben to’r tŷ a dechrau tynnu’r to yn ddarnau a gollwng y ffrind i lawr nes ei fod wrth ymyl Iesu.
Gwelodd Iesu fod y pedwar ffrind yn credu ynddo. Dywedodd, “Mae dy bechodau wedi eu maddau. Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda.” Safodd y dyn ar ei draed, yn iach a chryf. Roedd Iesu wedi ei wella.
Yn fuan wedyn, roedd Iesu mewn cwch gyda’i ddisgyblion. Cododd storm ofnadwy ar y llyn. Roedd Iesu’n cysgu.
Cafodd ei ddeffro gan ei ddisgyblion achos bod ganddyn nhw ofn. “Achub ni, Arglwydd, dyn ni’n siwr o farw!” gwaeddon nhw.
“Distaw! Byddwch lonnydd,” gorchmynnodd Iesu i’r tonnau. Aeth y llyn yn dawel yn syth. “Pwy ydy hwn?” sibrydodd ei ddisgyblion. “Mae hyn yn oed y gwynt a’r tonnau yn ufuddhau iddo.”
Roedden nhw’n credu bod Iesu yn fab Duw achos bod ei wyrthiau yn dangos pa mor fawr oedd e. Doedd y disgyblion ddim yn gwybod hyn, ond roedden nhw’n mynd i weld Iesu’n gwneud gwyrthiau mwy wrth wneud gwaith Duw ar y ddaear.
Y Diwedd
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Sut y dechreuodd i gyd? O ble daethom ni? Pam mae cymaint o dristwch yn y byd? A oes unrhyw obaith? Oes bywyd ar ôl marwolaeth? Dod o hyd i'r atebion wrth i chi ddarllen hanes cywir y byd hwn.
More
Hoffem ddiolch i Bible for Children, Inc. am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://bibleforchildren.org/languages/welsh/stories.php